Ychwanegion silwair
Sut mae brechlynnau silwair sydd â gwahanol ffyrdd o weithio yn effeithio ar gyflymder yr asideiddio yn y seilo ac ar ansawdd terfynol y silwair
Nod y prosiect yw cael rhai gwerthusiadau annibynnol o’r llu o wahanol fathau o frechlynnau silwair sydd ar y farchnad. Mae penderfynu pa frechlyn i’w ddefnyddio yn peri llawer o ddryswch i ffermwyr, yn rhannol am fod prinder treialon cymharol sy’n wirioneddol annibynnol. Mae’r ymchwil annibynnol wedi canolbwyntio ar y buddion -naill ai yn nhermau sefydlogrwydd aerobig neu ar sail ansawdd eplesiad y silwair. Fodd bynnag, yn ystod y 15 mlynedd diwethaf, cafwyd ‘dryswch’ yn y farchnad frechlynnau ar ôl cyflwyno mathau hetero-eplesol o facteria. Cyn hyn canfuwyd y gallai brechlynnau wneud silwair yn fwy maethlon am fod yr eplesu’n gyflymach. Er bod yna rai gwahaniaethau rhwng brechlynnau, roedd modd dilyn yr egwyddor gyffredinol ar sail wyddonol gadarn. Ar ôl cyflwyno mathau hetero-eplesol o frechlynnau daeth tro ar fyd. Mae llawer o dreialon ymchwil wedi dangos y gall defnyddio brechlynnau hetero-eplesol wneud ansawdd y silwair a gwerth y porthiant yn is nag a fyddent heb driniaeth. Yn anffodus, dydy llawer o ffermwyr ddim yn gwybod am y datblygiadau hyn ac maen nhw’n credu bod pob brechlyn yr un fath.
Hefyd, bydd y prosiect yn canfod faint o frechlyn y dylid ei ddefnyddio ar y tro. Mae yna ddata gwyddonol da sy’n awgrymu y dylid defnyddio 1 miliwn o facteria ar gyfer pob gram o borfwyd ond, er gwaethaf hyn, mae llawer o wneuthurwyr brechlynnau yn argymell defnyddio llai. Bydd y prosiect yn ymchwilio i ganfod pa mor effeithiol yw’r cyfraddau is. Yn ogystal, gwneir ymchwil i gymharu defnyddio un math yn unig o facteria mewn brechlyn â defnyddio sawl math. Ar ben hyn, ymchwilir i’r defnydd o ensymau y dywedir eu bod yn peri eplesiad mwy effeithiol.
Dechreuodd y prosiect ym mis Gorffennaf 2014 a daw i ben ym mis Ionawr 2015.
Mae’r gwaith yn cael ei wneud gan Silage Solutions ac yn cael ei ariannu gan HCC ac EBLEX.