Nod y prosiect hwn yw i meicnodi, diffinio factorau risg, a chynnig cynllun rheoli integredig i wella goroesiad a lleihau morbidrwydd a defnydd gwrthfiotig mewn ŵyn newydd-anedig a lloi sugno ym Mhrydain.
Bydd hyn yn cael ei gyflawni trwy weithio gyda dewis eang o filfeddygon a chynghorwyr diwydiant i ddatblygu rhwydwaith o ffermydd masnachol ar hyd a lled Prydain i ddarparu gwybodaeth am farwolaethau, arferion rheoli a defnyddio meddyginiaeth.
Cyflwyniad
Mae gwella goroesiad ŵyn a lloi sugno newydd-anedig yn faes allweddol i wella cynhyrchiant. Mae wyna a lloia yn gyfnodau risg uchel o ran colledion (trwy farwolaethau ac afiachusrwydd), yn enwedig oherwydd clefyd heintus. Mae angen deall yr heriau afiechyd yn ystod y cyfnod hwn ar gyfer ystod o systemau lloi sugno a defaid ar draws Prydain. Mae angen meicinodi y meddyginiaethau sy’n cael eu defnyddio i atal colledion newydd-anedig, er enghraifft gwrthfiotigau i atal ceg ddyfrllyd a clwy’r cymalau mewn ŵyn ac ysgothi mewn lloi, a mesur eu heffeithlonrwydd.
Mae angen archwilio’r berthynas rhwng ffermwyr cig eidion a defaid a’u milfeddygon a chynghorwyr eraill i ddeall a ellir eu gwneud yn fwy effeithiol wrth gefnogi anghenion ffermwyr. Mae hyn yn arbennig o berthnasol oherwydd gall newidiadau i gynlluniau sicrwydd ei gwneud yn ofynnol i ffermwyr gael cyswllt mwy rheolaidd â’u milfeddygol, gyda cholledion yn bwynt trafod mawr. Byddai’n ddefnyddiol i gael sylfaen o’r hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd.
Ar gyfer systemau defaid a lloi sugno, nid oes data diweddar, cadarn a dibynadwy am y colledion a’r achosion ar gael yn rhwydd. Sialens arall yw’r diffyg safoni ar sut y cofnodir y colledion, er enghraifft o fewn y 24 neu 48 awr gyntaf, mewn saith diwrnod neu hyd at bedwar wythnos. Mae colledion pellach yn digwydd mewn anifeiliaid sy’n goroesi ond sydd wedi lleihau perfformiad o glefyd ac sydd hefyd yn debygol o fod â defnydd o wrthficrobaidd cysylltiedig uwch.
Pwysigrwydd
Mae effaith amgylcheddol systemau cynhyrchu cnoi cil yn cael cryn dipyn o sylw ac ni fu erioed fwy o alw i wella effeithlonrwydd y sector. Mae hefyd angen i’r diwydiant hyrwyddo defnydd cynaliadwy a chyfrifol o wrthfiotigau. Bydd y gwaith hwn yn darparu Cynllun Goroesi a Gwrthfiotig Cynaliadwy Newydd-anedig yn seiliedig ar dystiolaeth i’r ffermwyr allu eu defnyddio yn eu system gynhyrchu i wella cynhyrchiant a phroffidioldeb.
Cydweithredwyr
Mae’r prosiect hwn yn gydweithrediad rhwng HCC, y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB) a Quality Meat Scotland (QMS). Prifysgol Caeredin sy’n arwain y prosiect ac mae’r partneriaid yn cynnwys Prifysgol Lerpwl, Prifysgol Nottingham, Prifysgol Bangor a Synergy Farm Vets.