HCC also supports postgraduate studentships linked to industry research projects.
Post Graduate Students
Teitl: Dylunio a datblygu strategaeth triniaeth ddetholus
Mae nematodau gastroberfeddol yn fygythiad mawr i ddiogelwch bwyd gan fod eu heintiau yn effeithio ar iechyd a lles defaid, allyriadau nwyon tŷ gwydr, cynhyrchu da byw cynaliadwy a phroffidioldeb fferm. Mae eu bygythiad yn cynyddu oherwydd ymwrthedd gwrthlyngyrol a newid yn yr hinsawdd, lle mae gaeafau mwynach yn caniatáu i fwy o rywogaethau nematod oroesi’r gaeaf ac i amserlen eu heintiau gynyddu. Er mwyn lliniaru’r bygythiad hwn i’r diwydiant amaethyddol a rhannau eraill o’r gadwyn gyflenwi cig, mae’n hanfodol bod strategaethau triniaeth ddetholus gynaliadwy (TST) wedi’u cynllunio i leihau dibyniaeth ffermwyr ar gyffuriau gwrthlyngyrol i reoli heintiau nematod wrth gyfyngu ar effaith afiechyd.
Mae nifer o strategaethau TST newydd wedi’u datblygu’n llwyddiannus i reoli heintiau nematod mewn ŵyn, fodd bynnag, mae ymchwil i reoli heintiau nematod mewn mamogiaid yn gynaliadwy yn parhau i fod yn gyfyngedig. Mae rheolaeth lwyddiannus a chynaliadwy ar heintiau nematod mewn mamogiaid yn hanfodol, yn enwedig yn ystod y cyfnod ogylch ŵyna lle mae gwanhau imiwnoleg sy’n gysylltiedig â straen ŵyna yn caniatáu i larfa nematod wedi’i atal yn yr abomaswm a’r waliau perfeddol ddod yn weithredol gan achosi afiechyd a dod yn ffynhonnell bwysig o halogiad porfa trwy wyau ar gyfer heintiau ŵyn yn y dyfodol.
Felly, nod yr ymchwil hwn yw dylunio technegau modelu moleciwlaidd a chyfrifiadurol i ddatblygu strategaeth driniaeth ddethol wedi’i thargedu newydd ar gyfer rheoli heintiau nematod mewn mamogiaid yn ystod y cyfnod ogylch ŵyna.
Mae’r Ddoethuriaeth wedi’i ariannu drwy gynllun Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS 2). Mae KESS 2 yn fenter sgiliau lefel uwch Cymru gyfan a arweinir gan Brifysgol Aberystwyth ar ran y sector AU yng Nghymru. Fe’i cyllidir yn rhannol gan raglen cydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewropeaidd (ESF) ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd, a gefnogir gan Gronfeydd Cymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru ac mae Eiry yn cydweithredu â HCC ar y prosiect hwn.
Partner Ymchwil: Prifysgol Lerpwl
Hyd y Prosiect: Hydref 2019 – Rhagfyr 2023 (4 blynedd)
Myfyriwr PhD dan nawdd BBSRC DTP: Emily Herschell-Kelly
Mae achosion o Fasciola hepatica, sef llyngyr yr iau cyffredin, ar gynnydd yn y DU. Mae llyngyr yr iau, sydd ag amrediad eang o anifeiliaid lletyol, yn destun pryder mawr oherwydd yr effaith ar gynhyrchiant a lles anifeiliaid. Mae’r bygythiad o heintiad llyngyr yr iau yn mynd yn fwyfwy wrth i’r tymheredd newid a’i gwneud yn haws i ddatblygiad y cynhaliwr rhyngol, sef y falwen Galba truncatula.
Y ffordd sylfaenol o reoli F. hepatica yw defnyddio cyffuriau lladd llyngyr yn rheolaidd, yn enwedig triclabendasol (TCBZ). Am fod yr ymwrthedd i TCBZ ar gynnydd, rhaid dibynnu ar gyffuriau eraill, megis closantel ac albendasol, sydd yn aml yn cael eu defnyddio i drin pob anifail sawl gwaith y flwyddyn. Mae defnydd aml o’r cyffuriau hyn yn golygu bod mwy o berygl y bydd ymwrthedd i sawl cyffur yn digwydd.
Cafodd cyfrifiad wyau ysgarthol cyfansawdd (cFEC) ei ddilysu ar gyfer ymwrthedd i TCBZ ac mae modd ei ddefnyddio yn y maes. Fodd bynnag, mae cynnal profion cFEC ar gyfer closantel ac albendasol yn fwy cymhleth am nad yw’r cyffuriau hyn yn targedu holl gyfnodau datblygiad y parasit yn yr anifail lletyol. Yn yr un modd, o ran geneteg, er ein bod yn dechrau adnabod rhai agweddau ar y genom F. hepatica sy’n ymwneud ag ymwrthedd i TBCZ, cyfyngedig o hyd yw ein dealltwriaeth o sut mae closantel ac albendasol yn gweithio.
Nod y PhD yw helpu i ddatblygu profion in vitro er mwyn canfod ymwrthedd i closantel ac albendasol yn y maes ac archwilio’r broses o ddewis genynnol mewn poblogaethau o lyngyr yr iau fel canlyniad i ddefnyddio cyffuriau lladd llyngyr yn rheolaidd. Yn y pen draw bydd hyn yn caniatáu gwell arferion rheoli ar ffermydd ac yn arafu’r ymwrthedd ymhlith llyngyr yr iau.
Mae’r PhD yn cael ei ariannu drwy Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol y Cyngor Gwyddorau Biotechnoleg a Biolegol (BBSRC DTP). Nod y BBSCR DTP yw cynnig hyfforddiant PhD mewn amryw o feysydd ymchwil perthnasol sydd yn ymwneud â meysydd diddordeb UKRI-BBSRC. Mae’r Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol hon yn brosiect ar y cyd rhwng Prifysgol Lerpwl a HCC.
Teitl: Pennu’r potensial ar gyfer pori trachywir i wella gwytnwch systemau cynhyrchu da byw.
Dangoswyd taw porfa yw’r bwyd rhataf mewn systemau ag anifeiliaid sy’n cnoi cil, a gall fod yn gwneud y niwed lleiaf i’r amgylchedd. Fodd bynnag, mae cyfaint, ansawdd a’r defnydd o’r borfa a dyfir ar ffermydd yn amrywio’n fawr – ac mae rheolaeth yn gyfrifol i raddau helaeth am hyn. Rhaid cymryd lle’r bwyd ‘a gollir’ â soya neu rawn wedi’u mewnforio, ac mae hynny’n faich economaidd ac amgylcheddol ychwanegol ar systemau cynhyrchu.
Mae astudiaethau’n awgrymu fod 50% o’r borfa a dyfir ar ffermydd y DG yn cael ei wastraffu. Mae gan hyn oblygiadau o ran defnyddio maetholion ac allyriadau nwyon tŷ gwydr. Dangoswyd bod rhai systemau (e.e. pori cylchdro) yn defnyddio 60-70% o’r borfa a dyfir, ond dywedir bod y systemau ‘pori celloedd’ yn gallu defnyddio 90% o’r borfa a dyfir. Byddai cymaint o wahaniaeth yn golygu goblygiadau sylweddol yn nhermau’r ôl troed amgylcheddol a’r gost o gynhyrchu cig. Byddai hefyd yn caniatáu cynhyrchu ar yr un nifer o hectarau o dir (neu fwy), gan olygu y gellid defnyddio’r tir gwaelaf i ‘wrthbwyso’ allyriadau, e.e. trwy blannu coed.
Trwy ddefnyddio clwstwr o safleoedd astudio, bydd y prosiect hwn yn pennu’r manteision economaidd ac amgylcheddol o wahanol fathau o bori ar gyfer systemau cynhyrchu cig oen a chig eidion.
Defnyddir y canfyddiadau o’r prosiect ar wahanol lefelau i greu allbynnau newydd:
- Bydd y canlyniadau economaidd ac amgylcheddol o wneud gwell defnydd o borfa ar gyfer systemau da byw yn cael eu hamcangyfrif ar raddfa’r fferm
- Yna caiff y canlyniadau eu chwyddo i’r raddfa genedlaethol, gan werthuso’r gwir effaith ar allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru a gwytnwch a pherfformiad economaidd ffermydd da byw
- Yn olaf, bydd potensial rheolaeth bori o’r fath i ddenu cyllid pellach i dalu am wasanaethau ecosystem yn cael ei asesu trwy ddefnyddio fferm tir uchel a thir isel yn fodel.
Mae’r PhD hwn yn cael ei ariannu trwy gynllun Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS 2). Mae’r cynllun hwn yn fenter sgiliau lefel uwch ledled Cymru sy’n cael ei harwain gan Brifysgol Bangor ar ran y sector Addysg Uwch yng Nghymru. Daw peth o’r arian o raglen gydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewropeaidd (ESF) Llywodraeth Cymru ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd. Mae Joe yn cydweithio â HCC ar y prosiect hwn.
Teitl: Strategaethau ar gyfer cynhyrchu defaid a gwartheg cig eidion yn ddi-garbon ar ffermydd Cymru.
The red meat sector is under considerable pressure from consumers and legislators to reduce its environmental impacts.
Mae’r sector cig coch dan bwysau sylweddol gan defnyddwyr a deddfwriaethwyr i leihau’r effaith mae’n ei gael ar yr amgylchedd.
Wrth i’r sector cig coch gael ei herio i symud tuag at fod yn ddi-garbon, mae angen gostwng allyriadau ar frys, ac i wneud yn well o ran lleihau nwyon tŷ gwydr drwy wrthbwyso neu ddal a storio.
Trwy weithio’n agos â HCC, bydd y prosiect yn casglu data drwy gyfuniad o gyfarfodydd wyneb-i-wyneb a hunan-adrodd gwybodaeth ar ffermydd cynrychiadol ledled Cymru. Dewisir ffermydd sydd yn nodweddiadol o systemau cynhyrchu cig oen a chig eidion yng Nghymru (ac mewn rhannau helaeth o Orllewin Ewrop), sef ffermydd tir uchel/tir isel, mawr/bach mewn rhanbarthau gwahanol eu hinsawdd. Bydd hyn yn golygu y gallwn ddefnyddio’r canlyniadau ar raddfa genedlaethol ac ar fap trywydd amgylcheddol newydd HCC, ‘Y Ffordd Gymreig’.
Bydd y prosiect yn gwerthuso effaith strategaethau lliniaru ar gynhyrchiant, gan ddatgan y canlyniadau trwy gyfrwng y dulliau confensiynol, sef nwyon tŷ gwydr/uned y cynnyrch a hectar, ond hefyd trwy gyfrwng metrigau newydd ac mewn perthynas ag unedau gweithredol amgen, e.e. i ystyried allyriadau nwyon tŷ gwydr am bob uned o brotein neu uned ddwysedd maetholyn. Bydd hyn yn golygu y gallwn fodelu llwybrau o ddwysáu cynaliadwy i arwain tuag at systemau porfa sy’n llwyr ddi-garbon.
Mae’r PhD hwn yn cael ei ariannu trwy gynllun Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS 2). Mae’r cynllun hwn yn fenter sgiliau lefel uwch ledled Cymru sy’n cael ei harwain gan Brifysgol Bangor ar ran y sector Addysg Uwch yng Nghymru. Daw peth o’r arian o raglen gydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewropeaidd (ESF) Llywodraeth Cymru ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd. Mae Louise yn cydweithio â HCC ar y prosiect hwn.
Teitl: Meintioli ymddygiad da byw er mwyn canfod clefydau trwy ddefnyddio technolegau manwl-gywir i fonitro anifeiliaid.
Mae canfod clefydau yn gynnar yn hanfodol er mwyn gallu trin da byw heb oedi ac yn gywir er budd eu hiechyd, lles a chynhyrchiant. Fodd bynnag, mae canfod clefyd yn gynnar ac yn gywir yn anodd, ac yn aml bydd cynhyrchiant wedi dioddef yn sylweddol cyn bod symptomau clinigol yn dod yn amlwg. Ar ben hynny, mae anawsterau wrth ganfod afiechydon yn gywir yn gynnar wedi arwain at drin da byw yn gyffredinol â gwrthfiotigau a moddion lladd llyngyr – ac mae hynny’n rhannol gyfrifol am y cynnydd cyflym mewn ymwrthedd.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gwelwyd bod y technolegau manwl-gywir ar gyfer da byw yn gallu gwella’r sefyllfa o ran canfod clefydau yn eu plith. Mae technolegau manwl-gywir fel synwyryddion neu fiosynwyryddion yn debygol o newid y ffordd y mae ffermwyr, gwyddonwyr a milfeddygon yn canfod ac yn trin afiechydon da byw. Gallai synwyryddion o’r fath fesur ymddygiad da byw 24 awr y dydd, a byddai hynny’n gwella hwsmonaeth da byw mewn systemau cynhyrchu modern, yn enwedig o gofio bod llai o hyd o weithwyr fferm yn gofalu am fwy o wartheg a defaid.
Bydd Becca Roberts yn seilio’i gwaith ar ymchwil flaenorol i dechnolegau da byw manwl-gywir, parasitoleg a pherfformiad da byw yn IBERS. Nod y PhD yw gwerthuso technolegau manwl-gywir (e.e. systemau tracio GPS a mesuryddion cyflymu) i ganfod newidiadau yn ymddygiad defaid a gwartheg sy’n gysylltiedig â newidiadau sylweddol yn eu hiechyd.
Bydd y PhD yn canolbwyntio’n benodol ar:
- Ymchwilio i’r defnydd o dechnolegau manwl-gywir gan filfeddygon ar gyfer da byw ar y fferm
- Cadw llygad ar ymddygiad mamogiaid beichiog yn gyffredinol ac o ran bwydo trwy ddefnyddio’r synwyryddion tracio diweddaraf
- Monitro ymddygiad ŵyn o bell trwy ddefnyddio mesuryddion cyflymu i nodi twf arafach, statws iechyd ac ŵyn a fyddai’n elwa o dderbyn moddion lladd llyngyr
- Monitro sut mae lloi cig eidion yn bwydo a’u hymddygiad cyffredinol er mwyn pennu eu statws iechyd.