Datrys achoseg CODD
Nod y prosiect hwn, sy’n cael ei ariannu ar y cyd gan BBSRC, HCC, AHDB a Phrifysgol Lerpwl yw darganfod y prif ficrobau sy’n gyfrifol am heintiadau Dermatitis byseddol defeidiog heintus (CODD), o’r lle maent yn deillio a’r amgylcheddau sy’n hwyluso eu goroesiad. Bydd hefyd yn edrych ar ymateb imiwnedd defaid i’r heintiadau hyn. Gwneir hyn trwy brofion metagenomeg ar friwiau CODD a hefyd drwy ganfod a oes gan ddefaid antigenau a allai helpu gyda’r gwaith o greu brechlynnau ar gyfer y dyfodol. Dylai canlyniadau’r prosiect hwn helpu ffermwyr a milfeddygon i ddeall yn well sut i reoli afiechydon.