Adnoddau Rheoli Defaid
Fel un o gynhyrchwyr cig oen mwya’r byd, mae Cymru wedi bod ar flaen y gad o ran datblygiadau yn y diwydiant defaid.
Wrth i chwaeth cwsmeriaid newid, felly hefyd mae amaeth wedi newid. Mae ffermio wedi esblygu trwy gyfuno dulliau traddodiadol sydd yn gweddu â’r amgylchedd naturiol godidog ac wedi ei drosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth, a datblygiadau newydd sy’n gwneud y mwyaf o arferion gorau o ran maeth ac iechyd anifeiliaid.
Bu HCC ar flaen y gad yn nifer o’r datblygiadau hyn, gyda’r amcan o sicrhau diwydiant sy’n broffidiol ac yn gynaliadwy.
Mae’r adran hon yn cynnwys ystod eang iawn o adnoddau; canllawiau ymarferol ar ffermio defaid, adnoddau ar lein sy’n helpu i amcangyfrif costau cynhyrchu, cyngor ar sicrhau’r gwerth mwyaf i’r carcas, ynghyd â’r ymchwil diweddaraf.