Skip to content
HCC Trade

Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipiscing elit, sed do eiusmod tempor incididunt ut labore et dolore magna aliqua. Ut enim ad minim veniam, quis nostrud exercitation ullamco laboris nisi ut aliquip ex ea commodo consequat. Duis aute irure dolor in reprehenderit in voluptate

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Porc Blasus

Manteision cofnodi EID fel offeryn rheoli i ffermwyr defaid

Mae system adnabod EID yn rhoi cyfle i wella rheolaeth a chynhyrchedd ar y fferm trwy adael i chi gasglu gwybodaeth yn fwy cywir a haws o lawer nag y gallwch trwy gofnodi gwybodaeth ar bapur.

Mae hyn yn golygu y gallwch nodi’n haws y defaid hynny sy’n gwneud y cyfraniad mwyaf at incwm a phroffidioldeb eich fferm, a’r rhai hynny sy’n gostus i chi eu cadw.

Gall system adnabod EID sicrhau gwell proffidioldeb ar gyfer eich busnes defaid trwy:

  • Wella’r broses o ddewis stoc ar gyfer bridio.
  • Gwella’r broses o ddewis stoc ar gyfer eu lladd.
  • Galluogi defnydd mwy effeithiol o feddyginiaethau milfeddygol, gan arwain yn y pen draw at well iechyd yn y praidd.
  • Eich galluogi i gyflawni arbedion maint trwy reoli praidd mwy, yn ogystal â’r gallu i asesu perfformiad anifeiliaid unigol.
  • Eich galluogi i gofnodi gwybodaeth ychwanegol, er enghraifft perfformiad ŵyn o wahanol rannau o’ch fferm. Gall hyn eich helpu i amlygu tir pori lle mae defaid yn perfformio’n wael.
  • Fe all hefyd helpu eich cynlluniau ailhadu a chynorthwyo i leihau dibyniaeth ar fwydydd anifeiliaid sy’n cael eu prynu.
  • Lleihau gwastraff ac arbed arian ar waredu gwastraff.
  • Cynnig cyfle i chi rannu gwybodaeth yn haws gyda’ch milfeddygon er mwyn iddynt gael dealltwriaeth well o anghenion iechyd eich praidd.
  • Cynnig y potensial i ddefnyddio gwybodaeth i farchnata eich stoc yn well.

Cyflawni’r buddion hynny

Sut mae adnabod electronig yn eich galluogi i gyflawni’r buddion hyn.

  • Mae’n arbed gorfod ysgrifennu rhifau adnabod, dyddiadau a gweithgareddau unigol. Mae hyn yn golygu bod modd casglu gwybodaeth yn rhwydd am nifer fawr o anifeiliaid, a hynny’n gyflym ac yn fwy cywir. Mae’n lleihau camgymeriadau a’r gwaith papur sy’n gysylltiedig â chofnodion symudiadau anifeiliaid/llyfrau meddyginiaeth ac ati.
  • Nid oes angen cyffwrdd â’r anifeiliaid i’w hadnabod yn gywir. Mae hyn yn golygu y gellir casglu rhifau adnabod heb fod angen darllen y tagiau clustiau, gan wneud y broses yn fwy cyflym a diogel i’r rhai sy’n gysylltiedig. Gellir lleihau risgiau iechyd a diogelwch ymhellach fyth trwy ddefnyddio darllenydd data sydd â pheiriant pwyso / cytio awtomatig.
  • Gellir llwytho’r wybodaeth adnabod a rheoli yn uniongyrchol i’ch cyfrifiadur, gan leihau’r amser a dreulir yn trawsgrifio gwybodaeth i’ch llyfr praidd, cyfrifiadur neu adnodd arall.
  • Mae meddalwedd rheoli fferm yn caniatáu i chi ddadansoddi’r data rydych wedi’i gasglu, gan roi gwybodaeth reoli i chi ar gyfer seilio penderfyniadau yn ymwneud â pherfformiad y praidd.
  • Mae EID yn rhoi’r holl wybodaeth i chi ar flaenau’ch bysedd – bydd dal darllenydd data yn agos i’r tag EID yn darparu’r holl wybodaeth sydd wedi’i storio ynglŷn â’r anifail penodol hwnnw. Gall hyn fod yn arbennig o ddefnyddiol o ran cyfnodau diddyfnu o gyffuriau wrth i ŵyn gyrraedd rhan olaf y broses pesgi. Mewn rhai achosion, gellir cysylltu gwybodaeth â’ch ffôn clyfar hefyd.
  • Mae EID yn lleihau costau llafur yn sylweddol oherwydd gellir rheoli mwy o anifeiliaid yn effeithiol gan lai o bobl. Mae’r cyfuniad o offer awtomataidd gydag EID yn cynnig y gallu i adnabod anifeiliaid yn awtomatig wrth iddynt fynd trwy system drin, fel y gellir pwyso a didoli mwy o anifeiliaid fesul awr. Gall hyn fod yn fuddiol iawn i systemau ffermio llai dwys.
  • Mae EID yn cynyddu’r cyfle i yrru mamogiaid ac ŵyn trwy gratiau pwyso electronig yn amlach nag a fyddai’n bosibl â llaw, gan ganiatáu i chi gadw llygad ar gyflwr mamogiaid ar ôl diddyfnu a faint o bwysau y mae ŵyn yn eu magu. Os nad yw mamogiaid yn adfer i gyflwr da, mae’n bosibl y bydd ganddynt broblem tymor hir, a gall ŵyn nad ydynt yn cyrraedd pwysau targed gael eu harchwilio am broblemau iechyd, fel llyngyr neu glwy’r traed.
  • Mae EID yn caniatáu i ffermwyr defaid sy’n cadw preiddiau mawr a symudir yn rheolaidd rhwng daliadau gofnodi symudiadau’n gyflym ac yn rhwydd a chadw llygad ar ble mae defaid unigol wedi bod.
  • Mae’r llif gwybodaeth gwell yn eich galluogi i wneud penderfyniadau mwy gwrthrychol ac amserol, gan felly wella perfformiad eich praidd a’ch busnes.

Mae EID yn cynnig llawer o gyfleoedd. Yr hyn sy’n allweddol er mwyn ei ddefnyddio’n effeithiol yw peidio â’i wneud yn rhy gymhleth a defnyddio’r dechnoleg i’r lefel lle y gallwch weld budd ac elw, y tu hwnt i’r hyn sydd ei angen at ddibenion adnabod syml.

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.