Skip to content
HCC Trade

Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipiscing elit, sed do eiusmod tempor incididunt ut labore et dolore magna aliqua. Ut enim ad minim veniam, quis nostrud exercitation ullamco laboris nisi ut aliquip ex ea commodo consequat. Duis aute irure dolor in reprehenderit in voluptate

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Porc Blasus

Beth yw Cynllun Hyrddod Mynydd?

Buddsoddi mewn amaeth ucheldir Cymru a’r economi wledig sy’n ddibynnol arni trwy ddefnyddio’r dechnoleg bridio diweddaraf a recordio perfformiad yn y sector fynydd Gymreig.

Mae ffermio mynydd yn hanfodol i economi, diwylliant a chymdeithas Cymru wledig.

Mae’r Cynllun Hyrddod Mynydd yn dod â’r dechnoleg ddiweddaraf i ddiadelloedd yn ucheldir Cymru gyda’r nod o gryfhau’r sector defaid trwy welliant genetig tymor hir.
Yn ystod y prosiect, bydd hyd at 45 o fusnesau fferm yn defnyddio technoleg rhiant DNA i ddeall perfformiad genetig eu diadell – gan ganiatáu i ffermwyr wella’u diadelloedd a chwrdd â gofynion y farchnad heb fawr o newid i’w systemau a hefyd creu màs critigol o ddiadelloedd lle mae perfformiad wedi ei gofnodi o fewn system ddefaid haenog Cymru.
Mae diadelloedd y Cynllun Hyrddod Mynydd yn ffurfio rhwydwaith daearyddol amrywiol – gan gynnwys 7 Diadell Arweiniol a fydd yn gweithredu fel enghreifftiau o fewn y Cynllun.

Mae pob diadell yn derbyn cefnogaeth a hyfforddiant fel rhan o’r Cynllun i’w tywys ar sut i gofnodi eu diadelloedd, dadansoddi a chyfathrebu’r canlyniadau ynghyd â chryfhau eu technegau marchnata stoc.

Sut mae’r Cynllun Hyrddod Mynydd yn Gweithio?

Mae cofnodi perfformiad yn ffordd ragorol o wella geneteg ac mae’n helpu ffermwyr defaid i ddeall geneteg eu diadelloedd.

Tan yn ddiweddar mae ffermwyr mynydd wedi wynebu heriau gwirioneddol o ran cofnodi perfformiad yn y fan a’r lle am fod diadelloedd yn cael eu cadw ar y mynydd. Felly, ni fu modd i ffermydd mynydd traddodiadol gofnodi perfformiad heb wneud newidiadau sylweddol i’w systemau ffermio.

Mae ffermwyr sy’n ymwneud â’r Cynllun Hyrddod Mynydd yn defnyddio technoleg DNA i gofnodi perfformiad, sy’n golygu nad oes raid iddynt wneud newidiadau sylfaenol i’w system. O’r herwydd mae modd iddynt ddewis anifeiliaid cadw yn seiliedig ar gofnodion perfformiad defaid sydd wedi ffynnu ar y mynydd.

Ymunodd saith Diadell Arweiniol â’r Cynllun Hyrddod Mynydd yn ystod hydref 2018. Cafwyd dwy rownd recriwtio arall, a chyrhaeddwyd y nod o gael 45 o ffermydd yn cymryd rhan yn y Cynllun.

Cofnodi Perfformiad

01
Beth yw Cofnodi Perfformiad?

Yn syml, o ran da byw, mae cofnod o berfformiad anifail, yn fesuriad o sut  mae’r anifail hwnnw wedi tyfu neu wedi cael ei fagu dros gyfnod penodol. Er enghraifft, pa mor dda y tyfodd oen o’i enedigaeth hyd ei ddiddyfnu, neu o’i ddiddyfnu hyd nes iddo orffen pesgi, neu sawl oen a fagwyd gan famog mewn blwyddyn neu gydol ei oes. Po fwyaf o wybodaeth y gellir ei chasglu, y mwyaf ddefnyddiol fydd y system  Mae pwyso da byw yn syml, ond yn bwysig ar gyfer sawl peth: cyfraddau twf, darparu meddyginiaethau, canfod arferion effeithiol / aneffeithiol.

02
Pam cofnodi perfformiad?

Mae dau beth yn fwy na dim yn dylanwadu ar berfformiad da byw. Un yw potensial bridio’r anifail, a bennir gan ei enynnau (h.y. geneteg). Y llall yw’r amgylchedd lle mae’r anifail yn cael ei gadw.Mae geneteg yn penderfynu pa mor dda y gall anifail ffynnu o dan amodau amrywiol, gwrthsefyll afiechydon a phlâu penodol a chyfrannu at system gynhyrchu fwy effeithlon.Mae ‘geneteg’ yn cael ei ddiffinio fel astudiaeth o sut mae nodweddion pethau byw yn cael eu trosglwyddo o un genhedlaeth i’r llall.

Wrth i dechnoleg a’n dealltwriaeth o eneteg ddatblygu ac esblygu, mae’n bosibl defnyddio gwybodaeth enetig erbyn hyn i ddylanwadu ar berfformiad diadelloedd.Trwy gyfrwng cofnodi perfformiad a defnyddio Gwerthoedd Bridio Tybiedig (EBVau), mae modd cael gwelliant genetig cyflymach a chadarnach. Mae hefyd yn ffordd ddibynadwy, cost-effeithiol a hirdymor o fridio anifeiliaid sydd â chynhyrchiant mwy effeithiol. Trwy gael yr eneteg fwyaf addas ar gyfer y system, mae modd cael enillion ariannol sylweddol. Yn ogystal, mae’n ateb hirdymor ar gyfer gwella perfformiad cyffredinol unrhyw fusnes ffermio yn economaidd ac yn amgylcheddol.

03
Beth yw Gwerthoedd Bridio Tybiedig? (EBVau)

Nod Gwerthoedd Bridio Tybiedig yw amcangyfrif potensial genetig anifail a sut y bydd genynnau anifail yn cael eu mynegi yn ei epil. Caiff hyn ei wneud trwy nifer o nodweddion mesuradwy. Ymhlith y nodweddion hyn mae:

  • Pwysau 8 wythnos
  • Pwysau adeg sganio (21 wythnos)
  • Trwch cyhyrau (y cig coch sy’n cael ei gynhyrchu)
  • Trwch braster
  • Maint llawn-dwf
  • Nodweddion mamol
  • Maint y dorllwyth a aned
  • Rhinwedd famol

Er mwyn cyfrifo EBVau ar gyfer y ddiadell gyfan, cofnodir perfformiad yr anifeiliaid. Hyd yn hyn, cafodd EBVau eu cyfyngu i anifeiliaid purlinach. Mae gormod o amrywiadau mewn dadansoddiadau croesfrid, ond mae hyn yn destun ymchwil ar hyn o bryd. Mae modd cymharu anifeiliaid o’r un brîd yn uniongyrchol, os oes cysylltiad genetig cryf rhwng diadelloedd. Gall EBVau gael eu cyfuno er mwyn cael mynegrif cyffredinol.

Mae gallu dehongli EBVau yn hanfodol i wneud y gorau o’r buddion y gallant eu cynnig. Ar yr olwg gyntaf, mae unrhyw beth sydd â graff EBV â blociau ar y dde yn bennaf, yn meddu ar fynegrif da / blaengar. Fodd bynnag, mae’n bwysig mynd o dan y wyneb oherwydd efallai nad yw’r mynegrif uchaf yn addas ar gyfer eich system chi.  Mae’n ddefnyddiol gwybod beth yw’r meysydd / nodweddion yr hoffech eu gwella, yn seiliedig ar berfformiad eich diadell eich hun, er mwyn dewis yr anifeiliaid â’r eneteg orau ar gyfer eich diadell. Mae’n werth neilltuo amser  i feddwl am yr hyn rydych chi eisiau ei gyflawni a deall yr hyn rydych chi am ei wneud i elwa arno.

04
Deall EBVau

05
Enghraifft

Fferm A: Mae hon yn cynnal 1,000 o famogiaid, yn bennaf ar dir mynydd wedi ei wella. Mae 800 o’r mamogiaid yn groesfrid a’r gweddill yn famogiaid Mynydd Cymreig. Bydd y rhan fwyaf yn ŵyna allan o ddiwedd mis Mawrth tan fis Mai. Mae’r ŵyn cyntaf yn barod o ddiwedd mis Medi hyd at fis Tachwedd, a bydd y rhan fwyaf yn cael eu gwerthu fel ŵyn stôr.

Gwelliannau y gellir eu gwneud o ddewis hwrdd:

  • Pesgi’n gynt
  • Llai o ŵyn stôr
  • EBVau i’w hystyried:

Pwysau sganio a maint llawn-dwf (Twf) – Mae’r pwysau sganio a’r maint llawn-dwf yn rhoi syniad o ba mor gyflym y gall yr epil dyfu. Po fwyaf yw’r maint llawn-dwf, y cyflymaf yw’r twf.

Trwch Braster a Thrwch cyhyrau – Mae’n bwysig fod y twf yn digwydd yn y mannau iawn; os nad oes digon o fraster, gall fod yn anodd i besgi’r ŵyn ac mae’n bosibl na fydd bydd ŵyn magu yn ddigon caled. Mae hyn hefyd yn helpu i gael mwy o gig y gellir ei werthu oddi ar y carcas.

Cyhoeddiadau Cynllun Hyrddod Mynydd

Gweld Cyhoeddiadau Cynllun Hyrddod Bryniau yn ein porth dogfennau

Ein Prosiectau Eraill

Rhaglen Datblygu Cig Coch

Stoc+

Gweithio gyda ffermwyr a milfeddygon i hybu rheolaeth iechyd praidd a buches ragweithiol, i helpu Cymru i arwain y byd mewn lles anifeiliaid, cynaliadwyedd ac effeithlonrwydd.

Cig Oen Cymru

Datblygu glasbrint i’r gadwyn gyflenwi gyfan er mwyn gwarantu’r cysondeb blas gorau i gwsmeriaid Cig Oen Cymru PGI.

Prosiect BeefQ

Nod y prosiect BeefQ oedd gwella cynaliadwyedd ariannol hirdymor cadwyn gyflenwi Cig Eidion Cymru trwy ddatblygu a phrofi technoleg (yn seiliedig ar system Safon Cig Awstralia (MSA)) sy’n sail wyddonol gadarn ar gyfer arddangos ansawdd bwyta Cig Eidion Cymru i ddefnyddwyr.

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.