Yn ystod y penwythnos diwethaf, fe wnaeth staff HCC ymuno â digwyddiad y Rhwydwaith Addysg Bwyd fel rhan o Ŵyl Fwyd y Fenni. Roedd y digwyddiad yn cynnwys y bobl hynny sy'n gweithio gyda phobl ifanc ac yn ymgysylltu â nhw mewn bwyd; yn eu haddysgu i goginio ac yn angerddol am sut mae bwyd yn tyfu; yn addysgu sut i wneud prydau bwyd ac yn addysgu plant a theuluoedd am sut olwg sydd ar fwyd iach ac yn angerddol am sicrhau bod plant yn fwy cysylltiedig o ble y daw bwyd.
Roedd Swyddog Gweithredol Defnyddwyr HCC, Elwen Roberts, a gynrychiolodd HCC ar y diwrnod, yn falch iawn o ymuno â’r grŵp o dros 30 o bobl o’r un anian a rhannu’r gwaith y mae HCC yn ei wneud ar ran talwyr ardoll ym meysydd addysg ac iechyd.
Wedi’i drefnu gan Kim Smith, Addysgwr Bwyd, Ymchwilydd ac ymddiriedolwr TastEd, cynhaliwyd y digwyddiad yng Nghanolfan Gymunedol y Fenni ac fe’i cefnogwyd gan Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.
Wrth siarad ar ôl y digwyddiad, dywedodd Elwen: “Roedd hwn yn gyfle gwych i ni rannu stori gadarnhaol cig coch o Gymru a’r manteision a ddaw yn ei sgil i iechyd a lles, fel rhan o ddiet cytbwys. Rydyn ni’n frwd dros addysgu pob cefndir am Gig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI a daeth y digwyddiad hwn â phobl ynghyd sy’n angerddol am addysg bwyd o bob math.
“Mae bwyd, gan gynnwys cig coch o Gymru fel Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru, yn allweddol i ddyfodol cynaliadwy, sy’n darparu’n economaidd, yn ddiwylliannol, yn amgylcheddol ac sydd hefyd yn cymryd ein lles cymdeithasol i ystyriaeth.
“Mae rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth i blant ynglŷn â sut mae eu bwyd yn cael ei gynhyrchu, o ble mae’n dod a sut mae diet amrywiol yn hanfodol i gadw’n heini ac yn iach, yn elfen o’n gwaith rydyn ni’n ei wneud ar ran talwyr yr ardoll - ac mae’n bwysig iawn mewn cymaint o ffyrdd.”
Os hoffech chi fod y cyntaf i glywed am ein hadnoddau newydd cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr addysg yma: