Mae adroddiad ar y cyd rhwng y cyrff ardoll, Hybu Cig Cymru, QMS ac AHDB, yn tynnu sylw at gamau ymarferol y gall ffermwyr eu cymryd i wella eu heffaith ar yr amgylchedd a bod yn fwy proffidiol.
Dywedodd Dr Heather McCalman, Swyddog Gweithredol HCC ar gyfer Ymchwil a Datblygu a Chynaliadwyedd: “Cafodd yr adroddiad hwn ei gomisiynu mewn ymateb i’r heriau sy’n wynebu’r sector gwartheg sugno cig eidion yn y DG, ac mae’n cynnig ffyrdd ymarferol i ffermwyr fynd i’r afael â’r heriau hynny.”
Bu’r astudiaeth yn ystyried sut y gallai 16 o arferion, ar draws pedwar categori – geneteg a bridio, lloia a ffrwythlondeb, porthiant a rheolaeth, yn unigol ac ar y cyd – gyfrannu at fwy o gynnyrch a phroffidioldeb, a llai o effaith ar yr amgylchedd.
Er i’r canlyniadau gael eu hasesu ar wahân, maent yn perthyn i’w gilydd.
“Bydd gwneud y fferm yn fwy effeithlon yn golygu llai o gostau a mwy o elw. Mae llawer o’r hyn sy’n gwella cynhyrchiant – megis cael buchod iau yn gyflo am y tro cyntaf – yn arwain at lai o fuchod amnewid, sy’n cael effaith buddiol ar yr amgylchedd. Mae llai o fuchod amnewid yn golygu llai o fethan enterig, llai o wrtaith (sy'n lleihau ocsid nitraidd, amonia a thrwytholchi nitrad) a llai o borthiant, gan arwain at lai o allyriadau cysylltiol,” meddai Dr McCalman.
Mae targedau statudol, gan gynnwys y gofyniad i’r DG gyrraedd allyriadau nwyon tŷ gwydr Sero Net erbyn 2050, a gofynion cynyddol y gadwyn gyflenwi am gig eidion a gynhyrchir ag allyriadau nwyon tŷ gwydr isel, yn ei gwneud yn ofynnol i ffermwyr wneud gwelliannau i’w systemau cynhyrchu.
“Bydd mabwysiadu dulliau ffermio sy’n gwella effeithlonrwydd yn helpu i gyrraedd y nod o ran yr amgylchedd ac i wella proffidioldeb. Mae'r gwaith hwn yn rhoi darlun clir i ffermwyr a’r bobl sydd yn eu cynghori o sut y gall arferion rheoli helpu i wneud penderfyniadau effeithiol.
“Yn sgil yr ymchwil hwn, gall ffermwyr adolygu a gwella eu harferion ffermio a manteisio ar gyngor ymarferol a fydd yn hybu cynhyrchiant a phroffidioldeb ac yn gwella’r effaith ar yr amgylchedd. Bydd hyn i gyd yn gwneud y sefyllfa’n gliriach ac yn darparu tystiolaeth gadarn i gefnogi a hybu’r sector cig eidion,” ychwanegodd.
Mae yr adroddiad i’w weld yma: https://meatpromotion.wales/cy/industry-resources/adnoddau-cig-eidion