Skip to content
HCC Trade

Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipiscing elit, sed do eiusmod tempor incididunt ut labore et dolore magna aliqua. Ut enim ad minim veniam, quis nostrud exercitation ullamco laboris nisi ut aliquip ex ea commodo consequat. Duis aute irure dolor in reprehenderit in voluptate

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Porc Blasus

Share

Mae Hybu Cig Cymru (HCC) yn edrych ymlaen at gwrdd â rhanddeiliaid o bob rhan o’r gadwyn gyflenwi yn Sioe Frenhinol Cymru (Dydd Llun 22 – dydd Iau 25 Gorffennaf 2024), gyda fformat a ffocws newydd i’r stondin.

Mae’r Sioe yn ddigwyddiad allweddol yn y calendr amaethyddol ac yn gyfle amhrisiadwy i drafod a dadlau’r heriau a’r cyfleoedd i’r sector cig coch. Bydd stondin HCC yn ganolfan brysur ar gyfer y trafodaethau hynny, a bydd ei raglen o dderbyniadau, lansiadau, sgyrsiau a chyfarfodydd yn rhoi sylw i bynciau llosg y diwydiant.

Bydd y stondin ar ei newydd wedd yn amlygu rhai o’r meysydd allweddol y mae HCC wedi ymrwymo i’w cyflawni ar ran y talwyr ardoll, gan gynnwys gweithio tuag at gynaliadwyedd, statws premiwm a llwyddiant masnachol i sector cig coch Cymru, sganio’r gorwel ac ymchwil a datblygu. Er mwyn ehangu presenoldeb ar draws maes y sioe, bydd mewnwelediad o’r diwydiant yn cael ei rannu mewn seminarau a byddwn yn gweithio gyda'r proseswyr a'r mân-werthwyr i feirniadu cystadlaethau a chyflwyno arddangosiadau coginio.

Fel arfer, bydd Brecwast HCC yn ddechrau da i’r gweithgareddau a bydd yn cynnwys Cadeirydd HCC, Catherine Smith ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies AS. Mae derbyniad Ysgoloriaeth HCC hefyd yn parhau, pan fydd enillydd Ysgoloriaeth 2024 yn cael ei gyhoeddi.

Bydd aelodau menter newydd gyffrous HCC, Cig-weithio, yn cael eu cyhoeddi yn dilyn proses recriwtio lwyddiannus fis diwethaf. Nod y rhaglen newydd hon yw gweithio gyda phobl ifanc sy'n ymwneud â'r sector cig coch i ysgogi trafodaeth, cynyddu dealltwriaeth a meithrin cysylltiadau rhwng gwahanol gysylltiadau yn y gadwyn gyflenwi. Roedd yr ymateb i’w lansiad nôl ym mis Mai yn wych a bydd yr aelodau grŵp a ddewiswyd yn ymgynnull am y tro cyntaf yn y Sioe.

Amlygir dau brosiect i’r diwydiant y mae HCC yn eu cyflawni. Anogir ffermwyr gwartheg cig eidion i alw heibio bob dydd am wybodaeth am y prosiect ‘Datgarboneiddio Cig Eidion Cymru’, sydd â’r nod o werthuso effaith amrywio oedran magu gwartheg cig eidion ar elw economaidd ac allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae chwilio am ffermwyr Cymraeg eu hiaith o Geredigion, Sir Gaerfyrddin, Gwynedd a Môn ar gyfer yr astudiaeth benodol hon, ac mae’r buddion i’r rhai sy’n cymryd rhan yn cynnwys archwiliadau carbon rhad ac am ddim a dadansoddiad ariannol rhad ac am ddim a allai arwain at fwy o elw i fusnesau ffermio.

Hefyd, bydd HCC yn lansio prosiect newydd ArloesiAber a fydd yn edrych ar ansawdd cig Cig Oen Cymru PGI ffres ac wedi'i rewi. Mae’r prosiect yn adeiladu ar waith a gwblhawyd yn flaenorol gan HCC yn y Prosiect Ansawdd Cig Oen Cymru fel rhan o’r Rhaglen Datblygu Cig Coch, a bydd yn llywio datblygiadau cadwyn gyflenwi a gweithgareddau masnach yn y dyfodol.

Edrychwn ymlaen at gydweithio’n agos â sefydliadau eraill, gan gynnwys y Rhwydwaith Ffermio sy’n Gyfeillgar i Natur (NFFN). Cynhelir digwyddiad ar y cyd ar stondin HCC ynghylch ffermio gwrthdywydd, gyda’r arbenigwr iechyd pridd, Niels Corfield, a dau ffermwr o Gymru, Rhodri Lloyd-Williams ac Aled Picton Evans, a fydd yn cynnig awgrymiadau ymarferol ar sut i ymdrin yn well â digwyddiadau tywydd eithafol tra’n cynyddu elw neu hyd yn oed gynyddu cynnyrch.

Bydd Swyddog Defnyddwyr HCC, Elwen Roberts, yn gweithio gyda CFfI Cymru i feirniadu un o’u cystadlaethau coginio. Bydd hefyd yn cyflwyno arddangosiad coginio byw i S4C ac arddangosiadau coginio dyddiol mewn partneriaeth ag M&S i ddathlu eu strategaeth cyrchu Cig Oen Cymru.

Bydd Rachael Madeley Davies, Pennaeth Cynaliadwyedd a Pholisi’r Dyfodol yn HCC yn rhan o drafodaeth banel UAC ar ddiogelwch bwyd, a bydd yn cymryd rhan yn seminar CffI Cymru ar ‘Sicrhau dyfodol mewn ffermio i’r genhedlaeth nesaf.’

Dywedodd Laura Pickup, Pennaeth Marchnata Strategol a Chysylltiadau yn HCC, a fydd yn ymuno â phanel o feirniaid fel rhan o gystadleuaeth stêc flynyddol Tesco: “Rydym yn teimlo’n gyffrous o fod yn treialu presenoldeb newydd yn y Sioe eleni. Efallai y byddwn yn edrych yn wahanol, ond yr un fydd ein nod yn y pen draw. Edrychwn ymlaen at rannu gwybodaeth am ein gweithgareddau marchnata diweddaraf yn y marchnadoedd domestig ac allforio, ac at frwydro cornel y diwydiant o ran ei bwysigrwydd a'i werth i'r economi, a hefyd rhinweddau iechyd a chynaliadwyedd y cynhyrchion.

“Byddwn yn yr un lle ag arfer; felly, dewch i’n gweld ac i ymuno yn ein digwyddiadau.  Mae croeso cynnes a phaned yn eich disgwyl.”

Mae’r gweithgareddau a ganlyn wedi’u trefnu (gall yr union amserau newid):

Dydd Llun 22 Gorffennaf 2024

8.00                       Brecwast HCC. Derbyniad brecwast gyda Chadeirydd HCC, Catherine Smith, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies AS (*trwy wahoddiad yn unig – cysylltwch â swyddfa’r wasg HCC am fanylion).

10:00-12:00 & 14:00-16:00

Sesiynau galw heibio. Dysgwch fwy am sut y gallwch fod yn rhan o brosiect newydd HCC ar ‘Datgarboneiddio Cig Eidion Cymru’.  Ariennir gan Gronfa Her ARFOR.

Dydd Mawrth 23 Gorffennaf 2024

10:30                    Cyflwyniad a thrafodaeth banel ar ffermio gwrthdywydd gyda’r Rhwydwaith Ffermio sy’n Gyfeillgar i Natur (NFFN). Ymunwch â’r arbenigwr iechyd pridd, Niels Corfield, a ffermwyr o Gymru, Rhodri Lloyd-Williams ac Aled Picton Evans, am drafodaeth banel ac awgrymiadau ymarferol ar sut i ddod yn fwy gwydn wrth ddelio â digwyddiadau tywydd eithafol, tra’n cynyddu elw.

14:00                    Cyfarfod Cig-weithio (*trwy wahoddiad yn unig - cysylltwch â swyddfa'r wasg HCC am fanylion).

HCC yn lansio ein rhaglen 12-mis newydd i ddatblygu a chefnogi’r gadwyn gyflenwi cig coch yng Nghymru.

Gweithgaredd i ffwrdd o’r stondin:

10:00                    Swyddog Gweithredol HCC ar gyfer y Defnyddwyr, Elwen Roberts yn beirniadu cystadleuaeth goginio’r CFfI.

10:45-11:15      Bydd HCC yn ymuno â Kepak i feirniadu cystadleuaeth Stêc Cig Eidion Cymru a Rag Cig Oen Cymru. Cyhoeddir yr enillwyr rhwng 13:30-13:50.

16:00                Arddangosiad coginio Elwen Roberts ar stondin M&S.

Dydd Mercher 24 Gorffennaf 2024

10:00-12:00 & 14:00-16:00

Sesiynau galw heibio. Dysgwch fwy am sut y gallwch chi fod yn rhan o brosiect newydd HCC ar ‘Datgarboneiddio Cig Eidion Cymru’. Ariennir gan Gronfa Her ARFOR.

11:00                Lansio prosiect Cig Oen Cymru PGI ac ArloesiAber.

Bydd HCC yn lansio eu prosiect lle byddant yn cymharu ansawdd cig Cig Oen Cymru PGI ffres ac wedi'i rewi.

Gweithgaredd i ffwrdd o’r stondin:

11:30                    Arddangosiad coginio Elwen Roberts ar stondin S4C.

16:00                Arddangosiad coginio Elwen Roberts ar stondin M&S.

Dydd Iau 25 Gorffennaf 2024

10:00am            ‘Diogelu Dyfodol mewn Ffermio i’r genhedlaeth nesaf’.

Seminar wedi’i drefnu a’i gynnal ar y cyd gan CFfI Cymru yn trafod dyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru ar gyfer y genhedlaeth nesaf.

11:00am             Derbyniad Ysgoloriaeth HCC. Cyhoeddir enillydd Ysgoloriaeth HCC 2024 (*trwy wahoddiad yn unig – cysylltwch â swyddfa’r wasg HCC am fanylion).

Gweithgaredd i ffwrdd o’r stondin:

16:00                    Arddangosiad coginio Elwen Roberts ar stondin M&S.

You may also like

Marchnadoedd Mwslimaidd yn cefnogi dyfodol gwerthiant Cig Oen Cymru, yn ôl arbenigwr
Marchnadoedd Mwslimaidd yn cefnogi dyfodol gwerthiant Cig Oen Cymru, yn ôl arbenigwr
Prosiect newydd ar wytnwch glaswelltir yn ceisio arbed £1.6 biliwn
Prosiect newydd ar wytnwch glaswelltir yn ceisio arbed £1.6 biliwn
Disgyblion Ysgol Carno yn dathlu bwyd a ffermio
Disgyblion Ysgol Carno yn dathlu bwyd a ffermio
Dadansoddwr blaenllaw yn rhagweld hwb posib i brisiau i gynhyrchwyr cig coch o Gymru
Dadansoddwr blaenllaw yn rhagweld hwb posib i brisiau i gynhyrchwyr cig coch o Gymru
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.