Mae gwerth allforion cig coch Cymru wedi codi’n sylweddol gyda Chig Eidion Cymru yn gweld cynnydd o 14 y cant a Chig Oen Cymru â chynnydd o chwech y cant o’r naill flwyddyn i’r llall, yn ôl dadansoddwyr Hybu Cig Cymru (HCC).
Allforiwyd tua 9,000 tunnell o gig eidion yn ystod chwe mis cyntaf y flwyddyn, sef 16 y cant yn fwy nag yn y cyfnod cyfatebol y llynedd. Mae gwerth allforion cig defaid wedi cynyddu chwech y cant, oherwydd prisiau uwch wrth gât y fferm am fod llai o gig defaid ffres ac wedi’i rewi ar gael i’w hallforio –12,000 tunnell, sef gostyngiad o ddeg y cant.
Mae Bwletin y Farchnad gan HCC ar gyfer mis Medi yn canolbwyntio ar y fasnach cig coch yn hanner cyntaf 2024 ac yn adlewyrchu yn benodol ar newyddion cadarnhaol i ddiwydiant cig eidion Cymru a’r DG. “O ran allforio, mae cig eidion wedi gweld momentwm cryf yn ystod chwe mis cyntaf y flwyddyn gyda chynnydd o dros ddeg y cant mewn gwerth a chyfaint,” meddai Glesni Phillips, Swyddog Gweithredol Gwybodaeth, Dadansoddiad a Mewnwelediad Busnes HCC.
“Mae data Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi ar gyfer y DG yn dangos bod bron i 56,000 tunnell o gig eidion ffres ac wedi’i rewi – gwerth £265.6 miliwn – wedi’u hallforio yn ystod chwe mis cyntaf 2024, sef cynnydd o un ar ddeg y cant o’r naill flwyddyn i’r llall a naw y cant yn fwy o ran gwerth.”
Iwerddon oedd y brif gyrchfan o hyd ar gyfer allforion cig eidion y DG gyda’r cynnydd chwe-misol yn y cyfaint allforio wedi’i ysgogi’n bennaf gan dwf nodedig mewn allforion i’r Iseldiroedd, Hong Kong, a Chanada.
Rhwng mis Ionawr a mis Mehefin, allforiodd y DG 37,400 tunnell o gig defaid ffres ac wedi’i rewi, gwerth £293.7 miliwn, sef naw y cant yn uwch na’r cyfnod cyfatebol yn 2023 er gwaethaf cwymp o wyth y cant yn y pwysau. “Mae’r cynnydd hwn mewn gwerth yn adlewyrchu prisiau da wrth gât y fferm ledled y DG, hyd yn oed wrth i gynhyrchiant ostwng yn sylweddol. Gyda chyflenwad cig defaid y DG fel arfer yn cynyddu yn ail hanner y flwyddyn, efallai y bydd mwy o gig ar gael i’w allforio yn ddiweddarach yn 2024,” meddai Glesni.
Cynyddodd mewnforion cig defaid a chig eidion yn ystod y cyfnod, gyda 33,750 tunnell o gig defaid, sef cynnydd o 10,270 tunnell. Sbardunwyd y cynnydd hwn gan fewnforion o Hemisffer y De, yn enwedig o Seland Newydd (7,800 tunnell ychwanegol) ac Awstralia (2,600 tunnell yn fwy). Roedd y cig defaid a fewnforiwyd o Seland Newydd yn 73 y cant o'r holl gig defaid a fewnforiwyd i’r DG.
“Gallwn briodoli’r cynnydd yn y mewnforion cig defaid i ostyngiad ym mhris cig oen o Hemisffer y De, llai o gyflenwad cartref, ac effaith y Cytundeb Masnach Rydd newydd,” ebe Glesni. Cafwyd cynnydd hefyd o naw y cant yn y mewnforion cig eidion ffres ac wedi’i rewi i’r DG yn ystod y cyfnod hwn, gyda 120,200 tunnell, gwerth £681.6 miliwn, yn cyrraedd o wledydd eraill. Cynyddodd Iwerddon, y prif gyflenwr, ei chyfran o fewnforion cig eidion y DG i 77 y cant, sef 16 y cant yn fwy o gig eidion na’r llynedd – sy’n cadarnhau bod cyflenwad digonol o wartheg ar gael yn Iwerddon,” meddai.
Mae modd cael hyd i rifyn y mis hwn o Fwletin y Farchnad yma: https://meatpromotion.wales/cy/newyddion-a-diwydiant/bwletin-y-farchnad