Skip to content
HCC Trade

Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipiscing elit, sed do eiusmod tempor incididunt ut labore et dolore magna aliqua. Ut enim ad minim veniam, quis nostrud exercitation ullamco laboris nisi ut aliquip ex ea commodo consequat. Duis aute irure dolor in reprehenderit in voluptate

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Porc Blasus

Share

Mae’r data diweddaraf yn awgrymu y gwelwn brisiau mwy sefydlog yn y farchnad  cig eidion yng Nghymru yn y tymor canolig am fod disgwyl i’r cyflenwad fod yn gyfyngedig.

Dyna yw barn arbenigwyr Hybu Cig Cymru (HCC) ar ôl astudio ystadegau gan Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain (BCMS).  Mae’r rhain yn dangos fod gan y fuches fagu ym Mhrydain 2.7 miliwn o wartheg ym mis Ionawr 2024, sef bron i ddau y cant yn llai nag ym mis Ionawr 2023 a chymaint â chwech y cant yn llai nag ym mis Ionawr 2021.

Fodd bynnag, yn y tymor byr, gall y bydd y nifer yn cynyddu dros dro - ac o bosibl yn cael effaith ar y prisiau i’r ffermwr - cyn i'r cyfyngu disgwyliedig ddod â mwy o sefydlogrwydd yn ddiweddarach yn  2024.

Mae’r data hwn, ynghyd â’r amcangyfrifon cysylltiedig, yn rhan o adroddiad newydd gan HCC yn y gyfres Rhwng y Llinellau, sef Cyflenwad Cig Eidion: Diweddariad a Rhagolygon sy’n ystyried yr hyn sy’n cael effaith ar gyflenwad yn y sector cig eidion, ynghyd â’r galw am y cig a’i bris, ar hyn o bryd yn y tymor canolig.

Mae Adran Amaeth yr Unol Daleithiau (USDA) yn rhagweld cyflenwad cyfyngedig o gig eidion ar y farchnad fyd-eang yn 2024, gydag Iwerddon a’r UE yn cynhyrchu llai,” meddai Glesni Phillips, Swyddog Gweithredol Gwybodaeth am y Farchnad a Dadansoddiad a Mewnwelediad Busnes HCC ac awdur yr adroddiad.

“Mae galw o hyd am gig eidion ledled y byd, a gall hyn roi hwb i’r farchnad gartref wrth i gyfleoedd ar gyfer mwy o allforion godi. Mae data BCMS yn awgrymu y bydd digon o gig ar gael ar gyfer gweddill eleni gan fod nifer y gwartheg 12–30 mis oed wedi cynyddu 2% mewn cymhariaeth â 2023. Roedd nifer y gwartheg o dan 12 mis oed ar 1 Ionawr wedi gostwng 3%, sy'n awgrymu y bydd y cyflenwad yn gyfyngedig wrth i ni gyrraedd 2025. Yn ogystal â hyn, bydd llai o wartheg magu yn golygu llai o loi yn 2024 a llai o anifeiliaid i’w lladd tan 2026 a thu hwnt.”

O ran prisiau, mae’r adroddiad yn dangos fod y prisiau pwysau marw cyfartalog ar gyfer gwartheg dethol yng Nghymru a Lloegr yn gryf yn ystod 2023 a’u bod wedi parhau’n uwch na’r flwyddyn flaenorol am y flwyddyn gyfan. Aeth y prisiau pwysau marw cyfartalog am fustych mor uchel â £4.90 ganol mis Mai y llynedd, ond mae’r cyfartaleddau cyfredol yn uwch ac wedi cyrraedd £4.95 ym mis Mawrth eleni, sef tua thri y cant yn uwch na’r flwyddyn flaenorol ac 28 y cant yn uwch wedyn na’r cyfartaledd hirdymor o bum-mlynedd.

Roedd prisiau pwysau marw ar gyfer buchod difa yn fwy cyfnewidiol gyda’r cyfartaleddau ar gyfer hanner cyntaf y flwyddyn yn dueddol o fod yn uwch na’r flwyddyn flaenorol a’r ail hanner yn is nag yn 2022. Cafwyd y pris cyfartalog uchaf am fuchod difa, sef £3.87, ddiwedd mis Mai – a oedd tua wyth y cant yn uwch nag yn y cyfnod cyfatebol yn 2022.

“Adeg ysgrifennu’r adroddiad hwn, roedd y cyfartaleddau yn tueddu i fod tua £3.46, sef dros 30c yn uwch nag ar ddechrau 2024 ond tua 35c yn is nag yn y cyfnod cyfatebol y llynedd, ” meddai Glesni.

Ychwanegodd fod data Defra yn dangos bod y DG wedi cynhyrchu 900,600 tunnell o gig eidion a chig llo yn 2023, sef dau y cant yn llai nag yn 2022 a’r pwysau lleiaf oddi ar 2018. “Dywed Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi fod y DG wedi allforio bron i 134,000 tunnell ac wedi mewnforio tua 291,200 tunnell o gig eidion yn 2023, sef pedwar y cant yn llai nag yn 2022.

O ran y galw, mae'r farchnad yn dal i ddangos arwyddon cadarnhaol. “Yn ôl Kantar, sy’n arbenigo yn arferion y defnyddwyr, roedd dros 80 y cant o gartrefi ym Mhrydain wedi prynu cig eidion ar ryw adeg yn ystod y flwyddyn.

“Wrth i bwysau costau byw barhau i ddylanwadu ar arferion siopa a bwyta, mae  briwgig yn dal i werthu’n dda yn y siopau. O ran y cig eidion a werthwyd yn y siopau ym Mhrydain yn 2023, roedd briwgig yn cyfrif am 55 y cant o’r cyfanswm, sef cynnydd nodedig o’r 50 y cant yn 2021,” meddai Glesni.

Mae adroddiad HCC, Cyflenwad Cig Eidion: Diweddariad a Rhagolygon ar gael yma: https://meatpromotion.wales/cy/newyddion-a-diwydiant/dadansoddir-farchnad

You may also like

Marchnadoedd Mwslimaidd yn cefnogi dyfodol gwerthiant Cig Oen Cymru, yn ôl arbenigwr
Marchnadoedd Mwslimaidd yn cefnogi dyfodol gwerthiant Cig Oen Cymru, yn ôl arbenigwr
Prosiect newydd ar wytnwch glaswelltir yn ceisio arbed £1.6 biliwn
Prosiect newydd ar wytnwch glaswelltir yn ceisio arbed £1.6 biliwn
Disgyblion Ysgol Carno yn dathlu bwyd a ffermio
Disgyblion Ysgol Carno yn dathlu bwyd a ffermio
Dadansoddwr blaenllaw yn rhagweld hwb posib i brisiau i gynhyrchwyr cig coch o Gymru
Dadansoddwr blaenllaw yn rhagweld hwb posib i brisiau i gynhyrchwyr cig coch o Gymru
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.