Mae Llywodraeth Cymru am benodi dau Gyfarwyddwr anweithredol newydd i fwrdd Hybu Cig Cymru (HCC).
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn ymuno â 9 cyfarwyddwr anweithredol presennol Bwrdd HCC sy’n cael ei gadeirio gan Catherine Smith. Mae'r bwrdd yn cynnwys unigolion ag ystod o setiau sgiliau, gan gynnwys ymchwil, amaethyddiaeth a marchnata. Er mwyn sicrhau trawstoriad o sgiliau ar Fwrdd HCC, bydd Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu penodiadau ar gyfer ymgeiswyr sydd â phrofiad lefel uchel ym meysydd: y gyfraith, llywodraethu, cyllid ac adnoddau dynol, a chadwyni cyflenwi cig coch.
Rôl Bwrdd HCC yw goruchwylio’r weithrediaeth a darparu arweinyddiaeth effeithiol, diffinio a datblygu cyfeiriad strategol a gosod amcanion heriol, hyrwyddo safonau uchel o gyllid cyhoeddus, a chynnal egwyddorion rheoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian, wrth ystyried y Amcanion Rheoli Tir Cynaliadwy o dan Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023. Mae'r Bwrdd yn gyfrifol am fonitro perfformiad HCC, gan sicrhau ei fod yn bodloni'r nodau, amcanion a thargedau perfformiad a nodir yn y cynlluniau corfforaethol a busnes.
Dywedodd Cadeirydd HCC, Catherine Smith: “Mae hwn yn gyfnod cyffrous i fod yn ymuno â Bwrdd HCC. Fel aelod o’r Bwrdd, cewch gyfle i ddylanwadu ar gyfeiriad strategol Hybu Cig Cymru, gan sicrhau ein bod yn parhau i gefnogi’r diwydiant yn effeithiol ac yn gynaliadwy. Rydym yn chwilio am unigolion sy’n angerddol am y sector amaethyddol a’r gadwyn gyflenwi cig coch yng Nghymru, sy’n meddu ar sgiliau arwain cryf, ac sy’n barod i roi o’u hamser a’u harbenigedd i’n Gweledigaeth.”
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies AS: “Mae gwaith HCC yn hynod bwysig i dalwyr yr ardoll a Llywodraeth Cymru, gyda’n gweledigaeth ar y cyd ar gyfer diwydiant proffidiol, cynaliadwy, arloesol a chystadleuol sy’n hefyd yn cael effeithiau cadarnhaol ar yr economi wledig ehangach.”
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 13 Rhagfyr 2024.
Am ragor o wybodaeth ac am fanylion ymgeisio, ewch I https://www.gov.wales/public-appointments