Tynnwyd sylw at fanteision maethol Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI yn ystod ymweliad Hybu Cig Cymru â’r PureGym yn Wrecsam.
Yn dilyn gwaith adnewyddu diweddar, mae’r Gampfa newydd yn Wrecsam wedi ailagor bellach.
Roedd staff Hybu Cig Cymru wedi rhannu syniadau am ryseitiau iach a siarad ag aelodau’r gampfa am bwysigrwydd cig coch Cymru yn y deiet, a’r ffaith ei fod yn llawn maethynnau. Roedden nhw hefyd yn amlinellu cymaint o faethynnau sydd mewn Cig Oen Cymru PGI, Cig Eidion Cymru PGI a Phorc o Gymru, o’i gymharu â phroteinau eraill sydd i’w cael mewn cig.
Mae gan gig coch, fel Cig Oen Cymru, Cig Eidion Cymru a Phorc o Gymru, lefelau tebyg o brotein fesul dogn o’i gymharu â dewisiadau cig poblogaidd eraill. Er hynny, tynnodd staff sylw at y ffaith fod stecen Cig Eidion Cymru heb lawer o fraster yn cynnwys 47g o brotein tra bod stecen coes Cig Oen Cymru yn cynnwys 40.4g a stecen Porc o Gymru yn cynnwys 44.8g.
O’i gymharu, mae cig coch hefyd yn cynnwys lefelau sylweddol uwch o fagnesiwm. Mae magnesiwm yn helpu’r cyhyrau i weithio, ac mae haearn yn helpu’r system imiwnedd a’r broses o gludo ocsigen o amgylch y corff. Hefyd, mae Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn cynnwys sinc, potasiwm, seleniwm a Fitaminau B, sydd i gyd yn bwysig ar gyfer cynnal deiet iach a ffordd iach o fyw. Yn benodol, mae fitaminau B yn gallu helpu i ryddhau egni ac atal blinder.
Esboniodd Elwen Roberts, Swyddog Gweithredol Defnyddwyr yn Hybu Cig Cymru: “Mae cig coch Cymru yn cynnig ystod eang o fanteision o ran iechyd a ffordd o fyw, ac mae’n brotein naturiol sy’n llawn maethynnau. Mae hyn yn helpu’r cyhyrau i dyfu ac adfer – ystyriaeth bwysig i unrhyw un sy’n frwd dros ffitrwydd!
Er bod llawer o’r bobl roedden ni wedi siarad â nhw yn PureGym yn ymwybodol o bwysigrwydd protein o ran cynnal deiet iach a ffordd iach o fyw, cawsom gyfle i atgoffa defnyddwyr o’r holl faethynnau mae Cig Oen Cymru, Cig Eidion Cymru a Phorc o Gymru yn gallu eu darparu.”
Dywedodd Liz Hunter, Uwch Swyddog Marchnata Digidol yn Hybu Cig Cymru: “Wrth hyrwyddo Cig Oen Cymru, Cig Eidion Cymru a Phorc o Gymru, mae pobl sy’n frwd dros ffitrwydd yn gynulleidfa grêt gan eu bod yn deall pwysigrwydd deiet iach a chytbwys, a’u bod yn barod i ddysgu am y maethynnau o ansawdd uchel sydd ar gael mewn cynnyrch cig coch yng Nghymru.”
Dywedodd Cailin Mowbray o PureGym Wrecsam: “Mae deiet a maeth yn agweddau pwysig ar gyflawni nodau ffitrwydd, ac ar ffordd iach o fyw yn gyffredinol. Felly, roedden ni’n falch iawn o weithio gyda Hybu Cig Cymru i dynnu sylw at frandiau cig coch Cymru a’r manteision maethol ychwanegol maen nhw’n eu cynnig.”