Mae Cig Oen Cymru ar ei ffordd i sioe fasnach fwyaf Asia, FoodEx, diolch i Hybu Cig Cymru (HCC). Bydd y digwyddiad, a gynhelir o ddydd Mawrth 5 Mawrth tan ddydd Gwener 8 Mawrth yn Tokyo Big Sight, yn denu dros 2,500 o gwmnïau bwyd a diod blaenllaw o fwy na 60 o wledydd a rhanbarthau.
Mae FoodEx yn cynnig cyfle allweddol i ehangu ac adeiladu ar enw da Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru ac i gysylltu â chwsmeriaid newydd ar draws y rhanbarth. Mae HCC wedi bod yn gweithio’n ddiflino ar ran y rhai sy’n talu’r ardoll a’r diwydiant i ddatblygu cyfleoedd ar gyfer brandiau cig coch Cymru o’r radd flaenaf, a gafodd eu lansio o’r newydd yn gynharach eleni yn y sector Gwasanaethau Bwyd gorau ledled Siapan.
Mae Pennaeth Marchnata Strategol a Chysylltiadau HCC, Laura Pickup, sy’n ymuno â’r ddirprwyaeth, yn esbonio pam na ddylid colli’r digwyddiad hwn: “Trwy fynychu FoodEx rydym yn adeiladu ar y gwaith rhagorol sydd eisoes wedi’i wneud ac sydd wedi sicrhau’r lle gorau i Gig Oen Cymru ar fwydlenni gourmet yn y farchnad newydd bwysig hon.
“Rydym yn gyffrous ein bod yn parhau i adrodd stori ragorol y cynnyrch premiwm hwn, sy’n seiliedig ar dreftadaeth a dulliau cynhyrchu cynaliadwy y gwyddom eu bod yn arwain y byd ac mae mynychu sioeau masnach fel hon ar ran y diwydiant yn elfen hanfodol o’n gwaith hyrwyddo a datblygu’r farchnad.”