Cafodd Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod yn swyddogol â statws Dynodiad Daearyddol (GI) yn Siapan. Mae'r statws gwarchodedig hwn yn golygu bod hawl allforio'r cynhyrchion premiwm i Siapan gyda sicrwydd ychwanegol eu bod wedi'u diogelu rhag cynhyrchion sy’n eu hefelychu.
Mae’r cyhoeddiad gan yr Adran Fusnes a Masnach, a ddisgrifiwyd yn llwyddiant i gig coch Cymru gan Hybu Cig Cymru (HCC), yn dilyn proses o fiwrocratiaeth a chraffu trylwyr gan y DG a Siapan. Bydd ail grŵp yn cael ei gyhoeddi ar ôl cwblhau gwaith pellach.
Daeth y Cytundeb Partneriaeth Economaidd Cynhwysfawr rhwng y DG a Siapan i rym ar 1 Ionawr 2021 a bydd yn arwain at gynnydd yn nifer y Dynodiadau Daearyddol gwarchodedig o ddim ond saith o dan y cytundeb masnach rhwng yr UE a Siapan i dros 70.
Dywedodd Pennaeth Marchnata Strategol a Chysylltiadau HCC, Laura Pickup: “Rydym wrth ein bodd fod Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru bellach wedi’u diogelu gan y dynodiad GI. Mae’n adeiladu ar y gwaith hollbwysig y mae HCC eisoes wedi’i wneud i sicrhau marchnad ar gyfer ein brandiau premiwm sydd yn allweddol i ni.
“Yn ogystal, mae’n golygu y gall defnyddwyr yn Siapan fod yn dawel eu meddwl, pan fyddan nhw’n prynu Cig Oen Cymru GI a Chig Eidion Cymru GI, eu bod yn dewis cynnyrch premiwm sy’n seiliedig ar dreftadaeth a dulliau cynhyrchu cynaliadwy sydd yn arwain y byd.”