Skip to content
HCC Trade

Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipiscing elit, sed do eiusmod tempor incididunt ut labore et dolore magna aliqua. Ut enim ad minim veniam, quis nostrud exercitation ullamco laboris nisi ut aliquip ex ea commodo consequat. Duis aute irure dolor in reprehenderit in voluptate

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Porc Blasus

Share

Ar 1 Medi bydd yr ‘Wythnos Caru Cig Oen’ flynyddol  yn dechrau, er mwyn dathlu hyblygrwydd a blas danteithiol a naturiol y cig.  Bydd cyfle hefyd i bawb roi cynnig ar gig oen mewn ffyrdd gwahanol. Mae’r ymgyrch ‘Cig Oen – Beth Amdani’ eleni yn gydweithrediad rhwng pedwar bwrdd ardoll cig coch y DG, yn cael ei arwain gan Quality Meat Scotland (QMS), gyda chefnogaeth y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB), Hybu Cig Cymru (HCC) a'r Comisiwn Da Byw a Chig (LMC). Mae gweithgareddau'n cael eu cynnal ledled y DG, gan gynnwys y stori o'r fferm i'r fforc, ynghyd â ryseitiau syml a blasus.

Bydd yr ymgyrch yn cynnwys ystod eang o hyrwyddiadau –  o faneri gât-fferm a hysbysebion mewn cylchgronau a phapurau newydd i becynnau hyrwyddo mewn siopau cigyddion ac eraill sy’n gwerthu cig, ynghyd ag ysbrydoliaeth am ryseitiau gan bobl ddylanwadol yn y cyfryngau cymdeithasol.

Bydd y byrddau ardoll sy’n cymryd rhan a chydweithredwyr yr ymgyrch fel Tractor Coch,  Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU) a’r Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol (NSA) yn defnyddio logo ymgyrch benodol, asedau digidol a phecyn cymorth i sicrhau negeseuon cyson sydd yn effeithiol o ran pwysleisio manteision cig oen ac annog defnyddwyr i'w fwynhau fel rhan o ddiet iach a chytbwys. Yn ogystal, bydd pecyn i randdeiliaid yn cael ei rannu â’r diwydiant ehangach, gan gynnwys mân-werthwyr a phroseswyr, i’w caniatáu i gymryd rhan yn yr ymgyrch trwy ddefnyddio asedau digidol ar draws eu platfformau unigol eu hunain.

Dywedodd Pennaeth Marchnata Strategol a Chysylltiadau HCC, Laura Pickup: “Mae Wythnos Caru Cig Oen yn gyfle gwych i ni ymgysylltu â defnyddwyr yma yng Nghymru, yn ogystal ag mewn rhannau eraill o’r DG, drwy gydweithio â byrddau ardoll eraill yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

“Bydd y fenter newydd hon, sy’n targedu’r defnyddiwr ac yn dathlu popeth anhygoel am gig oen, yn sicrhau ymgyrch genedlaethol eang ei chyrhaeddiad yn ystod Wythnos Caru Cig Oen.  Bydd yn gyson o ran golwg a naws ond bydd hefyd yn caniatáu negeseuon rhanbarthol wedi’u teilwra.”

Ychwanegodd Swyddog Gweithredol Ymgyrchoedd HCC, Philippa Gill: “Mae cig oen yn gynnyrch hyblyg o ansawdd uchel sydd â llawer o doriadau gwahanol i’w darganfod.  Drwy gydol yr wythnos ymgyrchu hon byddwn yn hyrwyddo’r llu o ffyrdd y gellir mwynhau cig oen – yn amrywio o ginio syml yn ystod yr wythnos i brydau rhost traddodiadol ar y Sul.”

Bydd pob bwrdd ardoll yn dathlu’r ymgyrch ‘Cig Oen – Beth Amdani’ gyda gweithgareddau penodol:

Yn yr Alban, bydd QMS yn canolbwyntio ar Scotch Lamb ar ei sianeli cyfryngau cymdeithasol i’r diwydiant a defnyddwyr (Make it Scotch), a bydd yn gweithio gyda dylanwadwyr cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo Scotch Lamb a’r ymgyrch ‘Make it Lamb’. Bydd gwefan Make it Scotch yn canolbwyntio ar gig oen am yr wythnos, gyda chymorth cysylltiadau cyhoeddus wedi eu hanelu at ddefnyddwyr mewn ystod eang ac amrywiol o'r wasg a chyfryngau digidol.

Yn Lloegr, bydd y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB) yn gyfrifol am hanner miliwn o sticeri ‘Make it Lamb’ ar becynnau cig oen o Brydain yn siopau pump o’r prif fân-werthwyr. Yn ogystal, bydd ganddo hysbysebion cyfryngau cymdeithasol ar sianeli @SimplyBeefandLamb Instagram a Facebook a bydd y rhain yn cynnwys dylanwadwyr bwyd adnabyddus. Bydd hysbysebion hefyd yn ymddangos yn y wasg brint genedlaethol. Caiff pecynnau hyrwyddo sy’n cynnwys taflenni ryseitiau, sticeri, posteri a thaflenni gweithgareddau plant eu postio at tua 1,500 o gigyddion a siopau fferm sydd wedi tanysgrifio. Ar ben hyn, bydd modd archebu adnoddau marchnata am ddim o wefan AHDB (tra bod rhai ar gael).

Bydd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU) yn cefnogi’r ymgyrch gyda ffermwyr defaid o’r tiroedd uchel yng Nghymru a’r tiroedd isel yn Lloegr yn amlygu pwysigrwydd defaid o ran llunio ein tirwedd.

Yng Nghymru, bydd Hybu Cig Cymru (HCC) yn cynnal ymgyrch hysbysebu ddigidol, gan gynnwys hyrwyddiadau ar ITV Cymru ac S4C ac ymgyrch gysylltiadau cyhoeddus ynghylch hyblygrwydd cig oen drwy weithio gyda chyfryngau amrywiol. Bydd hefyd yn ymgysylltu â dylanwadwyr rhieni i arddangos hyblygrwydd Cig Oen Cymru ar ei sianeli cyfryngau cymdeithasol gan gynnwys Instagram @pgiwelshlamb. Yn ogystal, bydd pwyslais yn cael ei roi ar sut mae’r cig yn faethol bwysig yn niet plant, gan ddarparu ysbrydoliaeth ar gyfer prydau yn-ôl-i’r-ysgol. A bydd manylion yn cael eu rhannu trwy gylchlythyr addysg HCC.

Yng Ngogledd Iwerddon, bydd y Comisiwn Da Byw a Chig (LMC) yn lansio ei raglen ysgolion drwy ganolbwyntio ar gig oen, yn ogystal â gweithio gyda dylanwadwyr ar gyfryngau cymdeithasol a datblygu gweithgareddau radio cysylltiedig. Bydd y Comisiwn hefyd yn cynnal digwyddiadau samplu i fân-werthwyr mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid y diwydiant a fydd yn sgwrsio â defnyddwyr ac yn esbonio’r gadwyn gyflenwi o’r fferm i’r fforc ar gyfer cig oen sydd â Sicrwydd Ansawdd Fferm. Hefyd, bydd LMC yn cynnal ymchwil ymhlith defnyddwyr mewn perthynas â’r sector cig oen.

Bydd amrywiaeth o ryseitiau sy'n arddangos cig oen a'i hyblygrwydd yn cael sylw yn ystod yr wythnos, gan gynnwys  tostadas cig oen madras, hotpots bach cig oen wedi awyr-ffrïo gyda saws mint, Tacos Cig Oen yr Alban gyda zaatar a baba-ghanoush a Sgiweriau Cig Oen yr Alban gyda phesto coriander.

Ychwanegodd Emma Heath: “Rydym i gyd yn edrych ymlaen at y dathliad hwn o gig oen ledled y DG ar ddechrau mis Medi a gweld canlyniadau’r ymgyrch ‘Cig Oen – Beth Amdani’ sydd yn gydweithredol, nodedig a chadarnhaol.

You may also like

Marchnadoedd Mwslimaidd yn cefnogi dyfodol gwerthiant Cig Oen Cymru, yn ôl arbenigwr
Marchnadoedd Mwslimaidd yn cefnogi dyfodol gwerthiant Cig Oen Cymru, yn ôl arbenigwr
Prosiect newydd ar wytnwch glaswelltir yn ceisio arbed £1.6 biliwn
Prosiect newydd ar wytnwch glaswelltir yn ceisio arbed £1.6 biliwn
Disgyblion Ysgol Carno yn dathlu bwyd a ffermio
Disgyblion Ysgol Carno yn dathlu bwyd a ffermio
Dadansoddwr blaenllaw yn rhagweld hwb posib i brisiau i gynhyrchwyr cig coch o Gymru
Dadansoddwr blaenllaw yn rhagweld hwb posib i brisiau i gynhyrchwyr cig coch o Gymru
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.