Mae prosiect peilot newydd sydd a’r nod o helpu cynhyrchwyr cig eidion i arbed arian yn chwilio am ffermwyr addas o Wynedd a Môn i gymryd rhan.
Bydd y prosiect - Datgarboneiddio Cig Eidion Cymru PGI - yn ystyried effaith pesgi gwartheg cig eidion o fewn cyfnod magu byrrach ar enillion y busnes, yn ogystal â’r effaith gadarnhaol ar y lefel o allyriadau nwyon tŷ gwydr a gaiff eu cynhyrchu.
Hybu Cig Cymru (HCC) sy’n arwain y gwaith hwn ac mae’n chwilio am hyd at 50 o ffermwyr i gymryd rhan. Mae’n rhaid i’r ffermydd fod wedi’u lleoli o fewn Ceredigion neu Sir Gaerfyrddin fel yr hysbysebwyd yn wreiddiol, gyda’r cyfle wedi’i ymestyn erbyn hyn i gynnwys busnesau cig eidion yng Ngwynedd a Môn hefyd.
Mae’r manteision i’r rhai fydd ynghlwm â’r gwaith yn cynnwys archwiliadau carbon a dadansoddiad ariannol rhad ac am ddim - dau weithgaredd a allai arwain at gynyddu enillion busnes y fferm. Yn ogystal, byddant yn cael eu cynnwys mewn cystadleuaeth am gyfle i ennill gwely a brecwast am noson gyda phryd nos yn un o westai pum-seren Cymru.
Er mwyn cydymffurfio â’r cyllid, a ddarperir gan Gronfa Her ARFOR, mae’n rhaid i’r cynhyrchwyr fod yn siaradwyr Cymraeg. Nod Cronfa Her ARFOR yw cryfhau’r berthynas rhwng yr economi a’r iaith Gymraeg yng ngogledd a gorllewin Cymru drwy gynnig grantiau ar gyfer atebion arloesol i heriau cymunedol.
Meddai Russ Thomas, Arweinydd Datblygu Polisi HCC: “Rydym eisoes yn gweithio gyda ffermwyr o Geredigion a Sir Gâr ar y prosiect, ac yn falch i fedru cynnig yr un cyfle i gynhyrchwyr cig eidion yng ngogledd-orllewin Cymru erbyn hyn hefyd. Pwrpas y gwaith yw datblygu effeithlonrwydd o fewn systemau cynhyrchu cig eidion yng Nghymru ac, yn y pen draw, helpu cynhyrchwyr i wneud mwy o arian.”
Y gobaith yw y bydd yn cael effaith gadarnhaol ar rannau eraill o’r gadwyn gyflenwi hefyd, fel yr eglura Russ: “Mae manwerthwyr a lladd-dai yn chwilio am gysondeb o ran maint da byw, a safoni rhwng toriadau. Gwerthiant y manwerthwyr a phatrymau prynu fydd y prif ddylanwad ar y fanyleb graddau targed a osodir gan y lladd-dy a’r prosesydd, a gall pwysau marw ysgafnach amrywio o 225kg i 400kg.”
Bydd cyfuniad o wybodaeth hanesyddol a chyfredol am y farchnad yn cael ei ddadansoddi ar gyfer y prosiect, ynghyd â data perfformiad y ffermydd sy’n cymryd rhan er mwyn cynnig senarios posibl i bob busnes.
Ychwanegodd Russ: “Drwy weithio gyda grŵp o 50 o ffermwyr, bydd y gwaith yn cynhyrchu gwybodaeth a chanlyniadau a fydd yn fanteisiol i’r diwydiant ehangach ledled Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys cynhyrchu mwy o gig eidion Cymreig o’r ansawdd gorau gyda llai o wartheg ac allyriadau, gwella brand Cig Eidion Cymru PGI gyda thystiolaeth o gynaliadwyedd, a rhoi mwy o hyder i ddefnyddwyr yn y sector cig eidion.
“Wrth i’r sector cig coch ddod dan bwysau cynyddol i leihau allyriadau carbon a methan, mae’n bwysig ein bod hefyd yn ystyried ein harferion amgylcheddol. Bydd y prosiect yma’n ystyried y ddwy agwedd yma, gyda’r nod o sicrhau dyfodol proffidiol ar gyfer y sector.”
Am fwy o wybodaeth am y prosiect neu i gymryd rhan, cysylltwch â HCC ar 01970 625050 neu info@hybucig.cymru