Mae ffermwyr cig eidion a defaid Cymru sydd â diddordeb mewn cymryd rhan mewn prosiect arloesol ledled y DG i gynhyrchu porfa yn gallu gwneud cais nawr i gymryd rhan.
Mae GrasscheckGB yn gweithio gyda naw ffermwr cig eidion a defaid mewn gwahanol rannau o Gymru sy’n mesur porfa yn wythnosol ac yn cyflwyno samplau i’w dadansoddi bob pythefnos yn ystod y tymor tyfu, er mwyn rheoli’n well y glaswelltir sy’n cael ei bori a gwella’r defnydd o’r borfa, a gwneud eu ffermydd yn fwy proffidiol a chynaliadwy.
Mae Hybu Cig Cymru (HCC) yn un o’r rhai sy’n cyllido GrasscheckGB ac mae bellach yn arwain y chwilio am ddwy fferm gig eidion a defaid arall yng Nghymru i ymuno â’r prosiect.
Menter gydweithredol ar draws y sectorau cig coch a llaeth yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, yw’r prosiect ac mae’n cynnig y sgiliau a’r offer sydd eu hangen ar y ffermwyr sy’n cymryd rhan i fonitro’r tywydd a mesur cynnyrch ac ansawdd eu porfa. Mae lleithder y pridd, tymheredd a darlleniadau tywydd hefyd yn cael eu crynhoi er mwyn rhoi darlun cyflawn o'r holl elfennau sydd eu hangen i dyfu glaswellt yn effeithlon. Caff y canlyniadau eu rhannu ar draws y diwydiant er budd a dealltwriaeth yr holl sector.
Bydd gan y ffermwyr sy’n ymuno â’r prosiect orsaf dywydd awtomatig i gofnodi tymheredd, lleithder, cyflymder a chyfeiriad y gwynt, ymbelydredd solar a lleithder y pridd. Mae ffermwyr hefyd yn cael hyfforddiant a chymorth i ddefnyddio meddalwedd a chyfarpar fel rhan o'r prosiect
Eglurodd Swyddog Gweithredol Ymchwil a Datblygu HCC, Dr Heather McCalman:
“Rydyn ni’n gwybod fod Cymru yn un o’r llefydd gorau yn y byd i dyfu porfa. Mae hyn yn golygu y gallwn fagu da byw o ansawdd uchel drwy bori a defnyddio’r haul a dŵr glaw yn bennaf, yn hytrach na phrynu porthiant costus wedi'i fewnforio.
“Rydym ar hyn o bryd yn chwilio am ddau fusnes fferm o Gymru i gymryd rhan ym mhrosiect GrasscheckGB wrth i’n ffenestr dderbyn ailagor.”
Mae Richard Rees, sy'n ffermio gyda'i frawd Huw Llyr ym Mhenmaen Bach ger Machynlleth, ar hyn o bryd yn ei ail flwyddyn fel ffermwr GrasscheckGB.
Mae Penmaen Bach yn cynnwys 60ha gyda 30ha o dir pori garw. Mae Huw a Richard yn cadw diadell o 400 o famogiaid Aberfield sy’n cael eu croesi â hyrddod Abermax. Eu nod yw pesgi’r holl ŵyn oddi ar borfa drwy ddefnyddio pori cylchdro sy’n cynnwys sicori a maglys. Mae'r fferm yn ceisio cadw costau mor isel â phosib drwy roi’r pwyslais ar gynhyrchu glaswellt a defnyddio cnydau gwraidd ar gyfer y gaeaf.
Dywedodd Richard: “Mae GrasscheckGB wedi bod yn gyfle gwych i ni ddeall mwy am dyfiant ein porfa yma ym Mhenmaen Bach. Mae’r data a’r cymorth a gawsom wedi bod yn werthfawr dros ben a byddwn yn annog ffermwyr eraill i wneud y mwyaf o’r cyfle i gymryd rhan.”
Dywedodd Heather McCalman: “Nod GrasscheckGB yw helpu ffermwyr i wella tyfiant eu porfa a’r defnydd ohono, ynghyd â datblygu model i ragfynegi perfformiad yn fwy effeithiol, a chymell effeithlonrwydd a chynaliadwyedd ar draws y sector. Mae Richard yn enghraifft o ffermwr sydd wedi defnyddio'r prosiect er mantais iddo Byddwn yn annog yn gryf unrhyw ffermwyr sydd â diddordeb yn y prosiect i wneud y gorau o’r cyfle unigryw hwn.”
I fynegi diddordeb mewn cymryd rhan yn y prosiect neu i gael rhagor o wybodaeth, gall ffermwyr gysylltu â HCC ar 01970 625050 / info@hybucig.cymru. Mae’r ffurflenni cais ar gael ar wefan HCC a dylid gwneud ceisiadau erbyn diwedd y 19eg o Chwefror.
Mae Grasscheck GB yn gydweithrediad rhwng Hybu Cig Cymru (HCC), y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB), a Quality Meat Scotland (QMS) ynghyd â CIEL (Canolfan Rhagoriaeth Arloesedd mewn Da Byw) ac ymchwilwyr yn y Sefydliad Bwyd-Amaeth a Biowyddorau (AFBI) a Rothamsted Research, yn ogystal â noddwyr y diwydiant, sef Germinal, Waitrose a Phartneriaid, Sciantec Analytical, Datamars Livestock a Handley Enterprises Cyf. Mae CIEL yn cynorthwyo prynu offer ar ffermydd trwy gyllid gan Innovate UK, sef Asiantaeth Arloesedd y DG.