Gallai sefydlogrwydd diwydiant cig eidion Cymru yn y dyfodol fod yn y fantol ar ôl i ddata hanner-blwyddyn newydd ddatgelu crebachu difrifol yn y cyflenwad gwartheg.
Cofrestrwyd genedigaethau 213,200 o loi yng Nghymru yn ystod chwe mis cyntaf 2024, sef dros 10,000 – neu bedwar y cant – yn llai nag yn Ionawr–Mehefin 2023, yn ôl ffigurau sydd newydd eu rhyddhau gan Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain (BCMS). Gwelir yr ystadegau hyn yn rhifyn diweddaraf Bwletin y Farchnad, a gyhoeddir gan Hybu Cig Cymru (HCC.
“Dyma’r nifer isaf o gofrestriadau lloi chwe-misol a gofnodwyd yng Nghymru ers sawl blwyddyn, llai o lawer na’r pegwn o bron i 230,000 yn 2021,” meddai Glesni Phillips, Swyddog Gweithredol Gwybodaeth, Dadansoddi a Mewnwelediad Busnes HCC. “Mae’r gostyngiad hwn hefyd yn adlewyrchu tueddiadau ar draws gweddill Prydain; mae’r cofrestriadau yn Lloegr hefyd bedwar y cant yn is a chafwyd gostyngiad o ddau y cant yn yr Alban.
“Wrth i nifer y gwartheg o oedran allweddol ostwng, mae pryderon difrifol ynghylch y màs critigol sydd ei angen i hybu a chynnal sefydlogrwydd y diwydiant, ac mae’r rhagolygon cyffredinol yn peri pryder o ran cynhyrchu cig eidion,” rhybuddiodd Glesni.
Mae data BCMS yn datgelu bod nifer y lloi a allai fod ar gael ar gyfer cynhyrchu cig eidion wedi gostwng i 173,600, sef y lefel isaf ers sawl blwyddyn. “Er y bydd rhai o’r buchod cig eidion yn cael eu cadw fel anifeiliaid sugno amnewid yn y fuches, mae’r ffigwr hwn bedwar y cant – sef 7,400 o anifeiliaid – yn is na’r nifer a oedd ar gael yn ystod hanner cyntaf 2023 ac mae’n debygol o gael goblygiadau sylweddol i ddyfodol cyflenwad cig eidion yng Nghymru.”
Mae Bwletin y Farchnad yn cynnig dadansoddiad manwl o’r ystadegau. Disgwylir i gyflenwad gwartheg yn y tymor byr ar draws Prydain barhau yn gymharol sefydlog, gyda nifer y gwartheg 12–30 mis oed yn gostwng 0.3% yn unig o’r naill flwyddyn i’r llall. Fodd bynnag, wrth edrych i’r dyfodol, mae nifer y gwartheg 0–12 mis oed yn sylweddol is, gostyngiad o bedwar y cant, sy’n awgrymu y gallai cyflenwad cig eidion ledled Prydain gael ei gyfyngu yn y dyfodol.
Cafodd chwech y cant yn llai o loi llaeth benyw eu cofrestru yng Nghymru rhwng Ionawr a Mehefin mewn cymhariaeth â’r cyfnod cyfatebol yn 2023. Roedd nifer y lloi llaeth gwryw wedi gostwng 14 y cant, gan arwain at ostyngiad cyffredinol o wyth y cant, neu bron i 5,100 yn y nifer cofrestriadau lloi llaeth.
Roedd cofrestriadau lloi cig eidion i lawr dri y cant – neu 4,600 o anifeiliaid – i bron i 158,100 yn ystod y cyfnod hanner blwyddyn hwn, sef tua dau y cant yn is nag yn 2022 a'r nifer isaf oddi ar 2019.
“Gwelwyd gostyngiadau tebyg o’r naill flwyddyn i’r llall o dri y cant, yng nghofrestriadau lloi gwryw a benyw yn y fuches gig eidion ond arhosodd y dosbarthiad o ran rhyw yn gymharol sefydlog. Roedd cofrestriadau cig eidion yn cyfrif am 74 y cant o gyfanswm y cofrestriadau lloi yng Nghymru, mewn cymhariaeth â 70 y cant yn 2021. Gallai’r newid hwn yn y cydbwysedd rhwng llaeth a chig eidion o fewn buchesi Cymru newid cyflenwad cig eidion yn y dyfodol os bydd y duedd hon yn parhau,” meddai Glesni.
Mae modd cael hyd i rifyn y mis hwn o Fwletin y Farchnad yma:
https://meatpromotion.wales/cy/newyddion-a-diwydiant/bwletin-y-farchnad