Skip to content
HCC Trade

Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipiscing elit, sed do eiusmod tempor incididunt ut labore et dolore magna aliqua. Ut enim ad minim veniam, quis nostrud exercitation ullamco laboris nisi ut aliquip ex ea commodo consequat. Duis aute irure dolor in reprehenderit in voluptate

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Porc Blasus

Share

Er mwyn helpu’r diwydiant i baratoi ar gyfer yr heriau sydd yn ei wynebu, cynhaliodd Hybu Cig Cymru (HCC) weminar ar y cyd â’r  Rhwydwaith Cymuned Ffermio a Chyfrifyddion LHP i drafod pa gamau y gall ffermwyr eu cymryd nawr i baratoi ar gyfer y gaeaf sydd i ddod.

Yn ymuno â’r weminar roedd Rheolwraig Y Rhwydwaith Cymunedol Ffermio (FCN) yng Nghymru, Linda Jones; Uwch Gyfrifydd amaethyddol LHP yn y tîm Amaethyddiaeth, William Howell  a Swyddog Gweithredol Datblygu'r Diwydiant yn HCC, James Ruggeri.

Neges allweddol yng nghyflwyniad James oedd y dylid cynllunio ymlaen llaw nawr am fod angen gwneud nifer o benderfyniadau heb oedi ynghylch tyfu cnydau porthiant a chynllunio pori.  Pwysleisiodd hefyd y dylid sicrhau bod mamogiaid yn y cyflwr iawn adeg hwrdda, oherwydd gall ceisio gwneud iawn am gyflwr eu corff yn ystod misoedd y gaeaf fod yn ddrud.  Ychwanegodd y dylid defnyddio’r cymorth sydd ar gael gan Cyswllt Ffermio ac eraill.

Aeth James yn ei flaen: “Ni allwn newid y tywydd ond po fwyaf o gynllunio a pharatoi a wnewch yn y cyfnod cyn y gaeaf, yr hawsaf y bydd i ddelio â thywydd eithafol. Da byw iach mewn cyflwr da sydd yn y sefyllfa orau i oroesi unrhyw aeaf.”

Dywedodd William Howell, Uwch Gyfrifydd yn LHP:  “Trwy roi strategaethau rheoli ariannol ar waith –  megis cyllidebu, rheoli llif arian, ceisio cyngor arbenigol, a defnyddio meddalwedd cyfrifo Cloud Accounting – gallwch reoli cyllid eich fferm a delio â heriau yn hyderus.”

Ymhlith y pwyntiau allweddol eraill  a amlygwyd yn ystod ei gyflwyniad, roedd pwysigrwydd cyfathrebu â’ch cyfrifydd, rheolwr banc ac ymgynghorwyr er mwyn datrys problemau trwy ddulliau rhagweithiol.

Dywedodd Linda Jones, Rheolwr Cenedlaethol Cymru gyda’r Rhwydwaith Cymunedol Ffermio:  “Mae gwasanaethau cymorth FCN Cymru yn cynnwys gwaith rhagweithiol i gefnogi ffermwyr pan fo newid a meithrin gwytnwch.  Credwn fod busnesau fferm yn ffynnu pan fydd eu pobl yn ffynnu – a rhan bwysig o ffynnu yw adeiladu a chynnal gwytnwch corfforol a meddyliol.

Yn ei chyflwyniad bu Linda yn trafod pynciau fel lles yn gyffredinol, sut i ofalu amdanoch eich hun, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o arwyddion a symptomau canser fel rhan o Brosiect Canser Cymunedau Gwledig FCN.  Mae’r prosiect  yn cydweithio â Chymorth Canser Macmillan i geisio mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd o fewn ffermio a chymunedau gwledig.

Wrth siarad ar ôl y digwyddiad, dywedodd aelod o Fwrdd HCC, Emlyn Roberts, a oedd yn cadeirio’r weminar: “Rydym am weld diwydiant ffermio cynhyrchiol a chryf a bydd HCC, ochr yn ochr ag FCN a Chyfrifyddion LHP yn trafod pa gamau ymarferol y gellir eu cymryd i sicrhau ein bod wedi paratoi’n dda ar gyfer tymor y gaeaf sydd i ddod. Hoffwn ddiolch i’r siaradwyr am eu cyfraniadau gwerthfawr a gobeithio y bydd y wybodaeth a gafodd ei rhannu o gymorth i’r diwydiant ehangach”

Mae’r weminar ar gael i’w gwylio ar sianel YouTube HCC: https://www.youtube.com/watch?v=R7-vqNiMGhI&t=1297s

You may also like

Marchnadoedd Mwslimaidd yn cefnogi dyfodol gwerthiant Cig Oen Cymru, yn ôl arbenigwr

Prosiect newydd ar wytnwch glaswelltir yn ceisio arbed £1.6 biliwn

Disgyblion Ysgol Carno yn dathlu bwyd a ffermio

Dadansoddwr blaenllaw yn rhagweld hwb posib i brisiau i gynhyrchwyr cig coch o Gymru

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.