Mae disgwyl bod incwm cyfartalog ffermydd da byw yng Nghymru wedi gostwng mwy na 30 y cant yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, a chymaint â 37 y cant mewn ardaloedd llai ffafriol.
Dyna sy’n cael ei ragweld gan Lywodraeth Cymru yn Rhagolwg o incwm ffermydd yng Nghmru, sef golwg blynyddol ar yr hyn sy’n debygol o ddigwydd i incwm ffermydd a pherfformiad y farchnad yn yr hir dymor. Mae Bwletin y Farchnad gan Hybu Cig Cymru (HCC) ar gyfer mis Chwefror yn edrych yn fanylach ar ganlyniadau’r Rhagolwg ynghylch blwyddyn ariannol 2022-23.
Mae'r ddogfen yn rhagweld y bydd yr incwm busnes cyfartalog ar gyfer fferm wartheg a defaid mewn Ardal Llai Ffafriol (ALlFf) wedi gostwng 37% i £24,300 y fferm (prisiau cyfredol).
“Y rheswm am y gostyngiad sylweddol o’r naill flwyddyn i’r llall ar gyfer ffermydd ALlFf, ar ôl tair blynedd yn olynol o gynnydd, yw bod allbwn busnes y ffermydd wedi gostwng wyth y cant ar gyfartaledd, a bod eu costau wedi codi tri y cant,” meddai Glesni Phillips, Swyddog Gweithredol Gwybodaeth, Dadansoddi a Mewnwelediad Busnes HCC, a golygydd Bwletin y Farchnad.
“Yr incwm a ragwelir ar gyfer fferm wartheg a defaid ar dir isel yng Nghymru yw £18,700 ar gyfer 2022-23, sef 30% yn llai na’r flwyddyn flaenorol. Mae'r ffigurau'n dangos bod y cynnydd mewn costau mewnbwn wedi cael mwy o effaith ar ffermydd tir isel lle'r oedd costau wedi cynyddu cymaint ag 13 y cant o’r naill flwyddyn i’r llall. Roedd hyn yn golygu nad oedd y cynnydd o bump y cant yn allbwn ffermydd tir isel yn ddigon i wneud iawn am y cynnydd yn eu costau,” meddai.
Mae’r cyfnod dan sylw – mis Ebrill 2022 i fis Mawrth 2023 – yn cyd-daro â’r rhyfel yn yr Wcrain a’r argyfwng costau byw – sydd ill dau wedi cael effaith sylweddol ar fusnesau fferm yng Nghymru. “Mae’r data’n dangos bod costau mewnbwn ffermydd o bob math, gan gynnwys ffermydd llaeth, wedi codi 15 y cant ar gyfartaledd o’r naill flwyddyn i’r llall, ac mae hynny wedi cael effaith ar broffidioldeb yn gyffredinol,” meddai Glesni.
Yn ôl Bwletin y Farchnad, gwelwyd yr heriau oherwydd costau chwyddiant uwch ar draws y gadwyn gyflenwi, gydag elfennau fel staff, cyfleustodau, tanwydd, yswiriant a threthi busnes yn cael effaith ar broffidioldeb busnesau. Mae cynnydd yn yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol yn rhoi pwysau ar allu busnesau i gadw staff. O’r cyntaf o fis Ebrill 2024, bydd yn cynyddu i £11.44/awr (ar gyfer staff 21 mlwydd oed a hŷn), sef cynnydd o bron i 60 y cant oddi ar 2016.
“Mae codiadau chwyddiant o’r fath yn siŵr o roi pwysau ychwanegol ar y gadwyn gyflenwi,” meddai Glesni. “Ac mae’r sector hefyd yn dal i wynebu heriau o ran galw, wrth i’r argyfwng costau byw roi pwysau ar wariant cartrefi a chael effaith ar arferion siopa.”
Dywedodd y dylid cofio bod sefyllfa anwadal y sector ffermio yn gallu arwain at newidiadau canrannol mawr yn incwm ffermydd o’r naill flwyddyn i’r llall ac na fydd cyfartaleddau incwm ffermydd yn rhoi mwy na syniad o berfformiad y sector, gan y bydd sefyllfa pob fferm yn wahanol.
“Gall incwm busnes fferm gael ei ddylanwadu gan amrywiaeth enfawr o ffactorau – megis lleoliad y fferm, ei maint economaidd, costau cynhyrchu, buddsoddiad y busnes a sgiliau'r sawl sy’n ei rhedeg,” meddai Glesni.