Skip to content
HCC Trade

Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipiscing elit, sed do eiusmod tempor incididunt ut labore et dolore magna aliqua. Ut enim ad minim veniam, quis nostrud exercitation ullamco laboris nisi ut aliquip ex ea commodo consequat. Duis aute irure dolor in reprehenderit in voluptate

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Porc Blasus

Share

Daeth cynhyrchwyr cig coch o bob cwr o ogledd Cymru ynghyd ar fferm ddefaid a gwartheg ar gyrion Caernarfon yr wythnos ddiwethaf (dydd Mawrth 25 Mehefin) i glywed y canlyniadau diweddaraf gan ddau brosiect pwysig yn y diwydiant.

Cynhaliwyd y digwyddiad ar fferm Alwyn Phillips, sef Pen y Gelli. Mae Mr Phillips yn rhan o brosiectau RamCompare a GrassCheckGB a ariennir ar y cyd gan Hybu Cig Cymru (HCC) ynghyd â’r byrddau ardoll eraill a sefydliadau o fewn y diwydiant.

Siaradodd yr arbenigwyr Sam Boon o Signet, a Taro Takahashi o’r Sefydliad Bwyd-amaeth a Biowyddorau (AFBI) am bwysigrwydd defnyddio geneteg a phorfa yn effeithiol ac effeithlon i wneud y mwyaf o berfformiad y ddiadell.

Pwysleisiwyd hyn gan Mr Phillips hefyd a ddywedodd, tra’n tywys taith o amgylch y fferm: “Mae perfformiad uchel ar borfa yn bosib os oes gennych yr eneteg gywir.”

Mae o wedi bod yn rhan o brosiectau RamCompare a GrassCheckGB ers sawl blwyddyn ers eu sefydlu, ac wedi gweld manteision yn sgil hynny. Mae’r rheiny’n cynnwys lleihau’r defnydd o wrtaith – ac felly’r gwariant arno – i’r hanner, tra’n tyfu a defnyddio mwy o laswellt i besgi ei ŵyn.

Mae Mr Phillips yn un o 12 ffermwr defaid a gwartheg yng Nghymru sy’n rhan o brosiect GrassCheckGB, prosiect sydd, dros bum mlynedd, wedi cofnodi data dros y DU gyda chyfartaledd o 8-12tDM/ha, yn cynnwys11ME a 19% o brotein crai gyda 80% ohono’n cael ei ddefnyddio. Mae hyn bron yn ddwbl y ffigyrau sy’n nodweddiadol o ffermydd ar draws y DU. Mae ansawdd y glaswellt yn debyg i ansawdd mewn bwyd a brynir, ac felly mae glaswellt wedi’i reoli’n dda nid yn unig yn rhatach, ond hefyd o ansawdd uchel.

Meddai: “Dwi i rŵan yn deall sut i dyfu glaswellt a sut i’w bori, dwi’n gwybod yn union faint ohono dwi’n ei dyfu ac yn deall cryfderau a gwendidau pob un o’r caeau.

“Beth sy’n wych am y prosiectau yw’r ffaith eu bod yn para nifer o flynyddoedd ac felly’n cynhyrchu canlyniadau credadwy a data defnyddiol sy’n cymryd popeth a fedr effeithio ar berfformiad y fferm i ystyriaeth.”

Ychwanegodd Mr Phillips: “Dwi’n teimlo bod y cyfuniad o ddefnyddio porfa a dewis defaid sy’n perfformio’n dda ar system sy’n seiliedig ar borfa yn hanfodol, ac yn ffordd o baratoi ar gyfer y posibilrwydd o fywyd heb gymorthdaliadau. Mae datblygu’r system yma’n cymryd amser - nid yw’n digwydd dros nos.”

Hyd yn hyn, mae’r prosiect RamCompare wedi gwerthuso 468 o hyrddod (o’u geni i’w lladd) gydag epil o dros 44,000 ar ffermydd masnachol yn y DU. Mae’r ffermwr Alwyn Nutting o Aberhafesb ger Y Drenewydd yn un o saith ffermwr RamCompare dros y DU sy’n profi hyrddod gyda mynegai uchel ar draws eu diadelloedd masnachol, gan ddarparu gwybodaeth werthfawr ar gyfer ffermwyr defaid eraill pan fyddant yn dewis eu hyrddod.

Meddai: “Mae’r prosiect RamCompare yn bwysig, dwi’n gobeithio y bydd yn dylanwadu ar y ffordd mae hyrddod yn cael eu magu, gan eu gwneud yn fwy defnyddiol ar gyfer eu defnyddio mewn diadelloedd defaid masnachol yn y DU.

“Mae’n bwysig eich bod yn dewis yr hwrdd iawn ar gyfer amcanion eich diadell, nid ydych eisiau dewis hwrdd sy’n eithafol o ran twf na chydffurfiad os ydych chi’n disgwyl i’r hwrdd berfformio ar system sy’n seiliedig ar borfa.”

Meddai Dr Heather McCalman, Swyddog Gweithredol Ymchwil a Datblygu a Chynaliadwyedd HCC: “Pwrpas y digwyddiad oedd arddangos sut y gall geneteg defaid a phori glaswellt yn effeithiol gyfuno i gynhyrchu cynnyrch cig coch o ansawdd uchel. Mae geneteg defaid da ar gael i bob ffermwr masnachol ac mae’r technegau ar gyfer pori glaswellt yn dda yn dod yn gyfarwydd iawn.

“Gall diadell iach, effeithlon sy’n perfformio’n dda gyfrannu, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol, at leihau ol-troed carbon ffermydd ac felly helpu at wella cynaliadwyedd y sector a thaclo’r heriau sydd i ddod.”

You may also like

Marchnadoedd Mwslimaidd yn cefnogi dyfodol gwerthiant Cig Oen Cymru, yn ôl arbenigwr
Marchnadoedd Mwslimaidd yn cefnogi dyfodol gwerthiant Cig Oen Cymru, yn ôl arbenigwr
Prosiect newydd ar wytnwch glaswelltir yn ceisio arbed £1.6 biliwn
Prosiect newydd ar wytnwch glaswelltir yn ceisio arbed £1.6 biliwn
Disgyblion Ysgol Carno yn dathlu bwyd a ffermio
Disgyblion Ysgol Carno yn dathlu bwyd a ffermio
Dadansoddwr blaenllaw yn rhagweld hwb posib i brisiau i gynhyrchwyr cig coch o Gymru
Dadansoddwr blaenllaw yn rhagweld hwb posib i brisiau i gynhyrchwyr cig coch o Gymru
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.