Ffermwyr yng Nghymru sydd wrth wraidd yr atebion mewn perthynas â newid yn yr hinsawdd – dyna oedd neges allweddol Hybu Cig Cymru (HCC) mewn gweminar i’r diwydiant yn ddiweddar pan gafwyd cipolwg ar ddata defnyddwyr a gweithgarwch marchnata, yn ogystal â diweddariad ynghylch y gwaith hollbwysig arall y mae HCC yn ei gyflawni ar ran y diwydiant.
Amlinellodd Pennaeth Cynaliadwyedd a Pholisi’r Dyfodol yn HCC, Rachael Madeley-Davies, beth o’r gwaith arloesol y mae HCC yn ei wneud ar ran y rhai sy’n talu ardoll iddo a phwysleisiodd sefyllfa unigryw’r ffermwyr o ran lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a chwarae rhan weithredol mewn mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.
Dywedodd: “Mae gennym frandiau enwog o safon fyd-eang yng Nghig Oen Cymru, Cig Eidion Cymru a Phorc o Gymru ac maen nhw’n gysylltiedig â math o ffermio sydd yn effeithlon o ran carbon ac sydd yn defnyddio dulliau cyfannol. Mae ein systemau da byw yn gwella bioamrywiaeth ac mae’r ffordd rydym yn ffermio yn cael effaith llesol ar iechyd y pridd ac ansawdd y dŵr a’r awyr, ond nawr rhaid i ni gyflwyno tystiolaeth o hyn drwy gyfrwng data.”
Ychwanegodd Mrs. Madeley-Davies ei fod yn golygu profi'r honiadau hynny a dangos pam mae'r ffordd y mae ffermwyr yn cynhyrchu bwyd yma yng Nghymru yn gosod y diwydiant ar wahân i systemau cynhyrchu eraill ar draws y byd.
“Mae yna gysylltiad cynhenid rhwng yr argyfyngau hinsawdd a natur, ac ar lefel ddynol mae’n bwysig ein bod yn ystyried hyn o ddifri ac yn cymryd camau priodol. Dyma lle mae carbon yn y gadwyn gyflenwi yn chwarae rhan a rhaid inni ystyried allyriadau Cwmpas 3, sy’n cynnwys allyriadau i fyny ac i lawr y gadwyn yn ogystal ag allyriadau uniongyrchol.
“Fel ffermwyr, sy’n rhan o’r gadwyn gyflenwi honno, rydym mewn sefyllfa unigryw i ymgymryd â’r rhan sydd gennym i’w chwarae. Dylai unrhyw gwmni ystyried mesur, lleihau, a gwrthbwyso yn fewnol ac allanol wrth benderfynu sut i greu llai o allyriadau carbon.
“Oni bai eich bod chi'n gwybod eich union sefyllfa, dydych chi ddim ond yn dyfalu. Efallai nad yw’r ffordd o wneud hynny’n berffaith ar hyn o bryd, ond mae’n rhoi syniad da i chi fel y gallwn ddechrau ystyried lleihau’r allyriadau. Mae yna gydberthynas rhwng perfformiad ariannol ac effeithlonrwydd ac effeithlonrwydd carbon. Mae allyriadau carbon fel arfer yn golygu gwastraff ac yn dynodi anghydbwysedd rhwng mewnbynnau ac allbynnau. Mae hynny’n golygu bod yna gyfleoedd i arbed arian a gwneud ein busnesau ffermio yn fwy proffidiol, yn ogystal â lleihau ein heffaith carbon, ond mae angen i chi wybod eich llinell sylfaen yn gyntaf.”
Dywedodd Mrs Madeley-Davies wrth y cynadleddwyr fod llawer o gwmnïau mawr, yn awtomatig, yn cymryd y cam gwrthbwyso yn gyntaf cyn ceisio lleihau allyriadau. “Wrth edrych ar eu hallyriadau carbon gwelwn nad ydyn nhw’n gwneud unrhyw beth i leihau eu hallyriadau – a dyna lle rydyn ni’n dechrau teimlo’r bygythiad. Dewis olaf yw gwrthbwyso, ac mae yna gyfleoedd da os byddwn yn cydweithio fel cadwyn gyflenwi.
“Heblaw am y môr, amaethyddiaeth yw’r unig ddiwydiant sy’n gallu atafaelu carbon. Mae hynny’n ein rhoi mewn sefyllfa dda a rhaid inni fanteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael i greu cadwyn gyflenwi gryfach.”
Bydd HCC nawr yn penderfynu sut y gall y diwydiant cig coch yng Nghymru arwain y ffordd o ran gwella iechyd y pridd ac ansawdd y dŵr a’r awyr, drwy weithio gydag eraill ar draws y diwydiant.
Mae'r gweminar ar gael i'w wylio yma: https://youtu.be/D3ZdgVEYizU?si=fLGJnBMenb91yi_x