Skip to content
HCC Trade

Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipiscing elit, sed do eiusmod tempor incididunt ut labore et dolore magna aliqua. Ut enim ad minim veniam, quis nostrud exercitation ullamco laboris nisi ut aliquip ex ea commodo consequat. Duis aute irure dolor in reprehenderit in voluptate

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Porc Blasus

Share

Cafodd set newydd o fideos wedi’u hanimeiddio sy’n dilyn y daith o’r fferm i’r fforc yng Nghymru, a gynhyrchwyd gan Hybu Cig Cymru (HCC), ei lansio i helpu i addysgu’r genhedlaeth nesaf ac i hyrwyddo Cig Oen Cymru PGI, Cig Eidion Cymru PGI a Phorc o Gymru.

Nod y gyfres o fideos wedi’u hanimeiddio yw addysgu plant am ffermio yng Nghymru a dangos sut mae cig coch yn cael ei gynhyrchu. Y llais ar y fideos yw llais y gyflwynwraig a’r awdur poblogaidd Mari Lovgreen, sy’n adnabyddus am gyflwyno rhaglenni teledu plant ar S4C, yn ogystal â Chefn Gwlad, Eisteddfod yr Urdd a’r Sioe Frenhinol. Mae Mari yn byw gyda’i theulu ifanc ar fferm gig eidion a defaid yng Nghanolbarth Cymru.

Mae yna ddwy set o fideos, un yn addas ar gyfer plant 5-7 oed a’r llall ar gyfer plant 8-11 oed, ac mae pob un ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Mae'r fideos yn para am tua 4 munud yr un a chawsant eu creu gyda gwersi ysgol mewn golwg, wrth i blant fynd yn ôl i'r ysgol ym mis Medi.

Maen nhw’n canolbwyntio ar ddulliau ffermio cynaliadwy Cymru, gan bwysleisio sut mae’r tywydd a’r tiroedd glas naturiol yn creu’r amodau delfrydol i gynhyrchu Cig Oen Cymru, Cig Eidion Cymru a Phorc o Gymru blasus a chynaliadwy.

Dywedodd Mari Lovgreen: “Rydym mor ffodus yng Nghymru fod gennym dir mor ffrwythlon a hinsawdd wych i gynhyrchu da byw hapus ac iach a ffermwyr sy’n gweithio mor galed i wneud yn siŵr fod bwyd ar ein platiau!  Mae’n wirioneddol bwysig ein bod ni’n dysgu o ble mae ein bwyd yn dod ac yn bwyta mor lleol â phosib.  Gyda hynny mewn golwg, rwy’n falch dros ben fy mod wedi gallu helpu i gynhyrchu’r fideos hyn y bydd plant ledled Cymru, gobeithio, yn eu mwynhau.”

Mae’r fideos yn cael eu rhannu gydag ysgolion ac athrawon cyn dechrau’r flwyddyn ysgol newydd yng nghylchlythyr newydd HCC sy’n canolbwyntio ar athrawon, The Kitchen Classroom / Gwersi o’r Gegin a lansiwyd yn gynharach eleni. Mae'r cylchlythyr yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau bwyd a ffermio a chafodd ei deilwra ar gyfer athrawon ysgolion cynradd ac uwchradd .

Dywedodd Elwen Roberts, Swyddog Gweithredol HCC ar gyfer y Defnyddwyr: “Mae’r fideos animeiddiedig newydd hyn yn ddelfrydol i athrawon eu defnyddio yn yr ystafell ddosbarth i ddangos i blant sut mae bwyd, yn enwedig cig coch, yn cael ei gynhyrchu yma yng Nghymru. Byddan nhw, ynghyd ag adnoddau addysgiadol a deniadol eraill, yn ymddangos yn y rhifyn nesaf o The Kitchen Classroom / Gwersi o’r Gegin – ac rwy’n annog pob athro i gofrestru ar gyfer y rhifyn hwn.

“Mae darparu adnoddau a gwybodaeth i ysgolion ac athrawon am gig coch yng Nghymru yn agwedd bwysig ar waith HCC a gobeithiwn, gyda’r flwyddyn ysgol newydd yn agosáu, y bydd y fideos newydd hyn yn llawn gwybodaeth ddefnyddiol.”

Bydd athrawon ac addysgwyr sy’n cofrestru ar gyfer cylchlythyr The Kitchen Classroom / Gwersi o’r Gegin cyn 13 Medi yn cael eu cynnwys mewn raffl i ennill gweithdy bwyd a ffermio HCC i’r ysgol. Bydd y fideos newydd ar gael i’w lawrlwytho i’r rhai sydd wedi cofrestru ar gyfer y cylchlythyr yn ogystal ag ar wefan benodol HCC: redmeathub.wales.

You may also like

Marchnadoedd Mwslimaidd yn cefnogi dyfodol gwerthiant Cig Oen Cymru, yn ôl arbenigwr
Marchnadoedd Mwslimaidd yn cefnogi dyfodol gwerthiant Cig Oen Cymru, yn ôl arbenigwr
Prosiect newydd ar wytnwch glaswelltir yn ceisio arbed £1.6 biliwn
Prosiect newydd ar wytnwch glaswelltir yn ceisio arbed £1.6 biliwn
Disgyblion Ysgol Carno yn dathlu bwyd a ffermio
Disgyblion Ysgol Carno yn dathlu bwyd a ffermio
Dadansoddwr blaenllaw yn rhagweld hwb posib i brisiau i gynhyrchwyr cig coch o Gymru
Dadansoddwr blaenllaw yn rhagweld hwb posib i brisiau i gynhyrchwyr cig coch o Gymru
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.