Skip to content
HCC Trade

Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipiscing elit, sed do eiusmod tempor incididunt ut labore et dolore magna aliqua. Ut enim ad minim veniam, quis nostrud exercitation ullamco laboris nisi ut aliquip ex ea commodo consequat. Duis aute irure dolor in reprehenderit in voluptate

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Porc Blasus

Share

Mae defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf a gweithio gyda’r gadwyn gyflenwi yn hanfodol er mwyn diogelu manteision Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI. Yn rhinwedd ei swyddogaeth fel gwarcheidwad brand ar gyfer y sector cig coch, mae Hybu Cig Cymru (HCC) yn gweithio’n agos gydag Oritain, sy’n defnyddio gwyddoniaeth fforensig arloesol i wirio tarddiad cynhyrchion cig coch.

Yn ymuno â HCC yn ddiweddar i drafod datblygiadau yn y maes, ymwelodd dirprwyaeth â ffermwr o’r bedwaredd genhedlaeth – sef Will Evans, sy’n ffermio yn Hendreseifion ger Machynlleth –  i weld drostynt eu hunain sut mae’r Ffordd Gymreig o ffermio yn sicrhau cynnyrch cig coch maethlon a chynaliadwy sy’n cael ei gynhyrchu mewn cytgord â’r amgylchedd.

Mae’r tir yma’n gymysgedd o dir isel ac ucheldir/mynydd ac mae’r teulu Evans yn frwd o ran rhedeg busnes ffermio cryf a fydd yn addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Drwy fabwysiadu ymagwedd fodern a blaengar ar gyfer eu system ffermio, mae Will, ynghyd â’i wraig Nia a’u tri mab ifanc, yn symud i ffwrdd o’r system ffermio cig eidion a defaid draddodiadol i fenter magu heffrod llaeth a defaid ar system bori cylchdro.

Dywedodd Uwch Swyddog Cynhyrchwyr a Phroseswyr HCC, Jenni Evans: “Mae Oritain wedi gweithio gyda HCC i ddatblygu set ddata er mwyn gallu canfod tarddiad Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI. Nod hyn yw gwella’r ffordd o olrhain cynhyrchion Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI er mwyn cryfhau’r cynllun a diogelu’r brandiau ar gyfer y dyfodol.”

Yn 2018, ffurfiodd Oritain a HCC bartneriaeth arloesol – y gyntaf o’i bath yn y byd – er mwyn diogelu Cig Oen Cymru drwy gyfrwng gwyddoniaeth fforensig.  Yn dilyn llwyddiant hyn, cafodd Cig Eidion Cymru ei gynnwys yn 2021, er mwyn rhoi sicrwydd ychwanegol i system lwyddiannus eisoes ar gyfer olrhain cig o'r fferm i'r fforc.

Cafodd cronfa ddata Oritain ar gyfer cig oen, cig eidion a chigoedd coch eraill ei datblygu trwy gyfuniad unigryw o wyddoniaeth fforensig a data.

“Mae defnyddwyr heddiw yn mynnu mwy o dryloywder ynghylch tarddiad y cynhyrchion maen nhw’n eu bwyta, ac mae astudiaethau wedi profi bod hyn yn dylanwadu ar brynu cig coch. Mae Oritain yn falch o’r bartneriaeth â HCC dros saith mlynedd a mwy i  bwysleisio hygrededd Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI,” meddai Henry Ryan, Rheolwr Cleientiaid Oritain.

“Mae wedi bod yn werth chweil i ni weld â’n llygaid ein hunain yr ymrwymiad sydd gan ffermwyr Cymru, fel y tystiwyd gan y teulu Evans, i gynhyrchu cig coch cynaliadwy o ansawdd uchel sy’n cydweithio â’r amgylchedd naturiol, yn hytrach nag yn ei erbyn. Rydym yn ffyddiog y bydd y bartneriaeth gydag Oritain yn dal i gefnogi twf cig coch Cymru am flynyddoedd lawer i ddod.”

“Mae Cymru yn enwog am ei hamaethyddiaeth gynaliadwy, dwysedd isel sy’n seiliedig ar ein hamgylchedd naturiol nodedig. Gan ddefnyddio tir nad yw'n addas ar gyfer cynhyrchu bwyd arall – ond sydd â digonedd o adnoddau naturiol fel glaswellt a dŵr glaw – caiff cig eidion a chig oen o'r safon uchaf eu cynhyrchu gyda llawer llai o allyriadau na sawl system ffermio arall ledled y byd. Y newyddion da yw y gallwn hefyd brofi hynny’n wyddonol,” esboniodd Jenni

“Y wyddoniaeth fforensig a ddefnyddir i brofi ein rhinweddau yw'r un wyddoniaeth a ddefnyddir ym maes ymchwiliadau troseddol. Mae'n anhygoel o gywir a chadarn, heb orfod dibynnu ar godau-bar neu becynnau ychwanegol – ac mae modd profi cynnyrch sawl gwaith yn y gadwyn gyflenwi.

“Mae hyn hefyd yn golygu y gall ffermwyr Cymru fod yn hyderus bod y cig o safon uchel sy’n cael ei gynhyrchu ganddyn nhw a’r enw rhagorol sydd ganddo yn cael ei ddiogelu wrth iddo symud drwy’r gadwyn gyflenwi. Mae hynny yn ei dro yn rhoi sicrwydd i brynwyr a defnyddwyr, gartref a thramor, bod y Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru maen nhw’n ei brynu yn ddilys ac wedi cael ei fagu a’i gynhyrchu yng Nghymru,” ychwanegodd.

You may also like

Marchnadoedd Mwslimaidd yn cefnogi dyfodol gwerthiant Cig Oen Cymru, yn ôl arbenigwr
Marchnadoedd Mwslimaidd yn cefnogi dyfodol gwerthiant Cig Oen Cymru, yn ôl arbenigwr
Prosiect newydd ar wytnwch glaswelltir yn ceisio arbed £1.6 biliwn
Prosiect newydd ar wytnwch glaswelltir yn ceisio arbed £1.6 biliwn
Disgyblion Ysgol Carno yn dathlu bwyd a ffermio
Disgyblion Ysgol Carno yn dathlu bwyd a ffermio
Dadansoddwr blaenllaw yn rhagweld hwb posib i brisiau i gynhyrchwyr cig coch o Gymru
Dadansoddwr blaenllaw yn rhagweld hwb posib i brisiau i gynhyrchwyr cig coch o Gymru
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.