Bydd allforwyr cig coch o Gymru yn mynd i’r Unol Daleithiau i hyrwyddo Cig Oen Cymru PGI yn ystod ymweliad wedi’i hwyluso gan Hybu Cig Cymru (HCC).
Bydd Cig Oen Cymru yn ymddangos yn y Gynhadledd Gig Flynyddol (AMC) a gynhelir eleni yn Nashville, Tennessee yn ystod 18-20 Mawrth. Disgwylir i dros 1,900 o gynrychiolwyr o bob rhan o sector gig yr Unol Daleithiau fod yn bresennol.
Caiff yr achlysur ei ddefnyddio gan HCC ac allforwyr cig coch Cymru i rwydweithio a chysylltu â phrynwyr a mewnforwyr o America, gan dynnu sylw at rinweddau naturiol a chynaliadwyedd Cig Oen Cymru, yn ogystal â’i flas nodedig.
Dywedodd Pennaeth Marchnata Strategol a Chysylltiadau HCC, Laura Pickup: “AMC yw’r digwyddiad allweddol yng nghalendr cig America, ac mae’n hanfodol bod HCC yno i ddatblygu’r galw yn y farchnad flaenoriaethol hon er mwyn sicrhau dyfodol llewyrchus i ffermwyr ac allforwyr Cymru.
“Mae Cig Oen Cymru yn gynnyrch premiwm sydd â blas eithriadol a rhinweddau cynaliadwy. Caiff ei gynhyrchu â balchder gan ffermwyr Cymru ac mae’n rhagori o ran cynaliadwyedd a lles anifeiliaid yn y farchnad fyd-eang. Mae hyn i gyd yn ychwanegu at flas a phrofiad bwyta nodedig Cig Oen Cymru.
Mae’r Unol Daleithiau yn mewnforio llawer mwy o gig nag yw’n ei allforio ac mae dadansoddiad ac ymchwil HCC ei hun yn awgrymu y gallai’r farchnad gig oen i UDA fod yn werth £20 miliwn i Gymru.
Allforiwyd y llwyth cyntaf o gig oen i’r Unol Daleithiau ym mis Hydref 2022 o ffatri brosesu yng Nghymru, yn dilyn codi gwaharddiad a oedd wedi para am ugain mlynedd. Oddi ar hynny mae HCC wedi gweithio, ochr yn ochr ag allforwyr, i feithrin ymwybyddiaeth, cysylltiadau a chwsmeriaid yn yr UD.