Mae ffermwyr o bob rhan o Gymru yn cael eu hannog i ymuno â seminar i drafod ffermio er gwaethaf y tywydd yn Sioe Frenhinol Cymru eleni.
Mae Hybu Cig Cymru (HCC) yn falch o fod yn ymuno â’r Rhwydwaith Ffermio er Lles Natur (NFFN) Cymru i gynnal y drafodaeth banel hon, a fydd yn cynnwys yr arbenigwr iechyd pridd, Niels Corfield, a dau ffermwr o Gymru, Rhodri Lloyd-Williams ac Aled Picton Evans.
Bydd hyn yn digwydd ar stondin HCC (M744) am 10:30am ddydd Mawrth 23 Gorffennaf.
Bydd Niels Corfield, cynghorydd a hyfforddwr ffermio annibynnol sydd wedi gweithio’n ddiweddar gyda NFFN Cymru ar gyfres o weithdai, yn ystyried sut y gall iechyd y pridd helpu ffermwyr i wneud eu tir yn fwy cymwys i ddelio â thywydd eithafol o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd, heb orfod cyfaddawdu ar faint o fwyd y maent yn ei gynhyrchu na bygwth y pethau sy'n cyfrif.
Bydd y ffermwr defaid mynydd, Rhodri Lloyd-Williams o Dal-y-bont, ger Aberystwyth, a’r ffermwr cig eidion a defaid yr iseldir o Sir Gaerfyrddin, Aled Picton Evans, yn amlinellu eu profiadau ymarferol o gynhyrchu cig coch o safon ar systemau sydd yn seiliedig ar borfa wrth wynebu heriau a newidiadau cyson yn y tywydd.
Dywedodd rheolwr NFFN Cymru, Rhys Evans: “Os ydych chi’n poeni am incwm y fferm yn gostwng, gwydnwch busnes y fferm ac ymdopi â llifogydd yn y gaeaf a sychder yn yr haf, yna mae’r sesiwn hon ar eich cyfer chi. Mynychodd dros 200 o ffermwyr gyfres ddiweddar o weithdai Ffermio Gwrthdywydd NFFN Cymru, dan arweiniad gwych Niels Corfield, sy’n dyst i boblogrwydd y sesiynau hyn. Rydym wrth ein bodd yn gweithio gyda Hybu Cig Cymru i ddod â’r sesiwn hon i Sioe Frenhinol Cymru.”
Dywedodd Pennaeth Cynaliadwyedd a Pholisi’r Dyfodol yn HCC, Rachael Madeley-Davies: “Cafodd llawer o heriau eu taflu at ein sector yn y blynyddoedd diwethaf, o Brexit i Covid, a newidiadau polisi ynghylch tywydd gwael, sydd oll wedi effeithio ar gynhyrchiant a proffidioldeb ein ffermydd.
“Ni allwn reoli’r tywydd ond gallwn gynllunio ymlaen llaw a pharatoi. Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda NFFN yn y Sioe ac yn edrych ymlaen at glywed gan Niels Corfield ar sut y gall gwella iechyd y pridd leihau dibyniaeth ar fewnbynnau artiffisial costus a chaniatáu i ffermydd newid i systemau pori sy’n fwy cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.”
I gofrestru ar gyfer y digwyddiad, cysylltwch â HCC ar: info@hybucig.cymru / 01970 625050