Mae dod â ffermio yn nes at ddefnyddwyr ac arddangos y rhan bwysig sydd gan gynhyrchwyr bwyd yn y gymuned mewn ffordd sy’n ystyriol o deuluoedd yn rhai o’r canlyniadau cadarnhaol a ddisgwylir o Ffair Wledig Garth eleni.
Yn croesawu’r digwyddiad arbennig, sydd bellach yn ei drydedd flwyddyn, mae sêr ymgyrchu Hybu Cig Cymru (HCC), Ben ac Ethan Williams o Fferm Garth, sydd yn y man uchaf yng Nghaerdydd ym Mhen-tyrch.
Pan fydd gatiau’r fferm wedi’u hagor ddydd Sadwrn 10 Awst o 10.30am, gall ymwelwyr fwynhau reidiau trelar, arddangosiadau cefn gwlad, saethyddiaeth, sioeau cŵn, cerddoriaeth fyw, arddangosfa hen foduron, arddangosfeydd adar ysglyfaethus yn hedfan, stondinau marchnad amryfal a llawer mwy i bob oed. Yn ogystal, mae’r digwyddiad yn falch o gefnogi Tŷ Hafan ar gyfer 2024.
Mae pedair cenhedlaeth o’r teulu Williams wedi ffermio yng Ngarth Uchaf. Tenantiaid oedden nhw i ddechrau, cyn i Elwyn a Sue Williams sefydlu’r fferm yn 1959, ac yn ddiweddarach bu eu mab Edward (Ted) a’i wraig Karen yn ei rheoli.
Erbyn hyn, y ffermwyr yw Ben ac Ethan, dau fab Karen ac Edward, sydd â diadell o bron i 700 o famogiaid (Mynydd De Cymru, croesau Suffolk, Mynydd Du Cymreig) ac ugain o hyrddod (Mynydd De Cymru a Mynydd Du Cymreig). Hefyd, mae ganddyn nhw fuches o wartheg Duon Cymreig pedigri, sy’n cynnwys 46 o fuchod sugno a dau darw, ynghyd â rhai moch Cymreig.
Dywedodd Ben Williams: “Rydym yn falch iawn o gynnal y digwyddiad hwn ar ein fferm eto eleni. Mae’n cael ei yrru gan y gymuned a’i nod yw dod â theuluoedd o bob rhan o’r rhanbarth at ei gilydd am ddiwrnod gwych. Ar yr un pryd mae’n cysylltu ein defnyddwyr â ffermio ac yn ein helpu i adrodd hanes llwyddiant Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI.”
Bydd HCC, sydd hefyd yn ymuno â’r digwyddiad, yn rhannu ryseitiau a llyfrynnau am ffermio i blant ac yn pwysleisio fod cig coch yn faethlon ac yn rhan o ddiet cytbwys.
Dywedodd Pennaeth Marchnata Strategol a Chysylltiadau HCC, Laura Pickup: “Mae HCC yn falch o gefnogi’r digwyddiad hwn ac edrychwn ymlaen at ymuno â Ben, y teulu a’r holl ymwelwyr am y diwrnod. Mae digwyddiadau fel hyn mor bwysig ac yn helpu i dynnu sylw at y rôl gysylltiol sydd gan ffermwyr mewn cymunedau ledled y wlad.
“Ffermydd fel Garth Uchaf sy’n dal ein cyfansoddiad cymdeithasol yn gyfan. Maen nhw’n sicrhau parhad ein diwylliant a’n ffordd o fyw, yn helpu defnyddwyr i ddeall sut mae eu bwyd yn cael ei gynhyrchu ac yn ennyn diddordeb y teulu cyfan. Rwy’n gobeithio y bydd llawer o bobl yn gallu ymuno â nhw ar gyfer yr hyn sy’n argoeli i fod yn ddiwrnod gwych.”
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: https://www.garthfarm.co.uk/garth-country-fair