Skip to content
HCC Trade

Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipiscing elit, sed do eiusmod tempor incididunt ut labore et dolore magna aliqua. Ut enim ad minim veniam, quis nostrud exercitation ullamco laboris nisi ut aliquip ex ea commodo consequat. Duis aute irure dolor in reprehenderit in voluptate

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Porc Blasus

Share

Mae Hybu Cig Cymru (HCC) yn recriwtio ffermwyr i gymryd rhan mewn prosiect newydd sy’n edrych ar wneud y defnydd gorau o laswelltir tra’n gwneud arbedion ariannol sylweddol i’r busnes.

Bydd yr arbedion posibl o £1.6 biliwn yn deillio o arferion rheoli glaswelltir effeithlon sy’n gyfeillgar â natur. Byddant hefyd yn helpu busnesau ffermio i addasu i heriau newid hinsawdd, ac wrth wneud hynny, yn helpu’r diwydiant i weithio tuag at dargedau sero net.

Mae’r prosiect - o’r enw Rhaglen Defnydd Tir ar gyfer Sero Net Natur a Phobl (LUNZ) - yn chwilio am ffermwyr o Gymru sydd wedi bod yn ffermio mewn ffyrdd sy’n gweithio gyda natur i gynhyrchu bwyd. Mae’r dulliau yma’n tueddu bod yn rhai sy’n lleihau mewnbynnau heb fod yn organig ac yn annog amrywiaeth ar draws y fferm ac o fewn caeau. Mae’r dulliau yn cynnwys y defnydd o godlysiau, lleihad mewn gwrtaith a chwynladdwyr, pori cylchdro, bioamrywiaeth a chreu cynefinoedd. Ochr yn ochr â’r rhwydwaith o ffermydd masnachol ar draws Cymru a’r DU, bydd ymchwil gwyddonol mewn sawl prifysgol yn archwilio dulliau newydd a’u heffeithiau.

Fel rhan o ddulliau holistaidd o asesu busnesau ffermio yn gynaliadwy, bydd ffermwyr yn cwblhau dull o asesu o’r enw Global Farm Metric (GFM) gyda chymorth ymchwilydd. Rhennir y canlyniadau gyda’r ffermwr a’u defnyddio ar gyfer gwneud newidiadau ar y fferm. Bydd ffermwyr hefyd yn elwa o archwiliadau bioamrywiaeth, ac yn samplu rhai o’u caeau i ddadansoddi’r pridd, llystyfiant a charbon.

Mae Dr Heather McCalman, Swyddog Gweithredol Ymchwil a Datblygu a Chynaliadwyedd HCC, yn gyfrifol am gydlynu elfennau ffermydd cig eidion a defaid o Gymru o fewn y prosiect. Meddai: “Rydym ni’n annog ffermwyr dros Gymru i fod yn rhan o raglen glaswelltiroedd LUNZ. Ei nod yw arddangos manteision amgylcheddol a chymdeithasol ehangach o systemau cig eidion a defaid yng Nghymru sy’n seiliedig ar laswelltir ond bydd busnesau unigol hefyd yn manteisio. Bydd yn darparu tystiolaeth o sut y gall arferion rheoli glaswelltir helpu i gynnal proffidioldeb ffermydd, lleihau nwyon tŷ gwydr a gwella bioamrywiaeth ac iechyd y pridd. Mae’n gyfle gwych i gael mesur ôl-troed carbon a GFM yn rhad ac am ddim.

“Fel rhan o glwstwr o tua 10 fferm, cewch eich gwahodd i weithdy i drafod eich canlyniadau a rhannu syniadau ar dechnegau i wella gwytnwch eich fferm a’ch busnes.”

Dylai ffermwyr sydd â diddordeb gysylltu â Dr Heather McCalman ar hmccalman@hybucig.cymru / 07740592377 cyn 31 Rhagfyr i drafod ymhellach.

Ychwanegodd: “Mae nifer o ffermwyr yn derbyn cyfarwyddyd aneglur ar sut i leihau allyriadau, gan arafu cynnydd y diwydiant. Ond wrth ddefnyddio ymchwil a chasglu data o astudiaethau achos yng Nghymru - ynghyd ag eraill ar draws y DU - bydd y prosiect yma’n mynd i’r afael â strategaethau glaswelltir effeithlon, ymarferol a fforddiadwy i leihau allyriadau a chynyddu atafaeliad carbon, tra’n cynnal cynhyrchiant.”

Mae Glaswelltiroedd LUNZ yn un o bum prosiect ymchwil a ariennir i fynd i’r afael â’r her o allyriadau sero net yn y DU erbyn 2050. Ariennir y prosiect ar y cyd gan UKRI, Defra (ar ran Cymru a Lloegr), DESNZ, ac mae wedi’i gynllunio ar y cyd gyda’r Adran Amaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban.

You may also like

Marchnadoedd Mwslimaidd yn cefnogi dyfodol gwerthiant Cig Oen Cymru, yn ôl arbenigwr
Marchnadoedd Mwslimaidd yn cefnogi dyfodol gwerthiant Cig Oen Cymru, yn ôl arbenigwr
Prosiect newydd ar wytnwch glaswelltir yn ceisio arbed £1.6 biliwn
Prosiect newydd ar wytnwch glaswelltir yn ceisio arbed £1.6 biliwn
Disgyblion Ysgol Carno yn dathlu bwyd a ffermio
Disgyblion Ysgol Carno yn dathlu bwyd a ffermio
Dadansoddwr blaenllaw yn rhagweld hwb posib i brisiau i gynhyrchwyr cig coch o Gymru
Dadansoddwr blaenllaw yn rhagweld hwb posib i brisiau i gynhyrchwyr cig coch o Gymru
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.