Mae ffigurau trwybwn defaid yn lladd-dai’r DG ym mis Mehefin yn datgelu “gogwydd pryderus” gyda nifer y defaid a laddwyd yn sylweddol is yn ystod chwe mis cyntaf eleni o gymharu â 2023.
Cafodd tua 5.4 miliwn o ŵyn dethol eu prosesu yn ystod chwe mis cyntaf y flwyddyn, sef naw y cant yn llai nag yn y flwyddyn flaenorol a chwech y cant yn llai nag yn 2022.
Manylir ar y data newydd hwn ym Mwletin y Farchnad mis Gorffennaf gan Hybu Cig Cymru (HCC). Dywedodd y golygydd, Glesni Phillips, fod hyn “ogwydd pryderus” o niferoedd is yn olynol. Mae’r naw y cant o ostyngiad yn nifer yr ŵyn dethol yn cyfateb i 564,400 ar sail y niferoedd yn 2023 ac mae’n dilyn yr wybodaeth a gawsom yn arolwg Mehefin 2023, pan nodwyd gostyngiad o ddeg y cant yn nifer y defaid.
“Mae’n darlunio tueddiad pryderus ac olynol flwyddyn ar ôl blwyddyn o ddiadell sy’n crebachu a gallai gael ôl-effeithiau sylweddol o ran màs critigol a chynhyrchiant is yng Nghymru,” meddai.
Yn gyfan gwbl, cafodd 6.1 miliwn o ddefaid ac ŵyn eu lladd mewn lladd-dai yn y DG hyd at fis Mehefin, sy’n ostyngiad sylweddol o ddeg y cant (neu 699,200 anifail) o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
“Fodd bynnag, mae’n bosibl fod yna ychydig o olau o fewn yr ystadegau tywyll hyn, gan eu bod hefyd yn cynnwys gostyngiad yn niferoedd y defaid llawn dwf. Felly, gallai fod rhai defaid yn cael eu cadw nôl ar y ffermydd ar gyfer bridio pellach,” meddai Glesni, sy’n Swyddog Gwybodaeth, Dadansoddi a Mewnwelediad Busnes yn HCC.
Dywedodd fod trwybwn defaid llawn dwf yn y cyfnod gryn dipyn yn is nag oedd yn y flwyddyn flaenorol, sef i lawr 16 y cant i 688,600, y lefel isaf a gofnodwyd ers chwe mis cyntaf 2020. O ganlyniad, mae cyfanswm y cig defaid a gynhyrchwyd ym mis Ionawr – mis Gorffennaf 2024 wyth y cant (129,400 tunnell) yn is nag yn y flwyddyn flaenorol.
“Ffactor arall o bosibl yw bod y tywydd wedi effeithio ar dyfiant porfa ac wedi atal pesgi tan ar ôl mis Mehefin – ond ar y cyfan, mae’r niferoedd dipyn yn llai na’r hyn y byddem wedi disgwyl yr adeg yma o’r flwyddyn,” meddai Glesni.
Dywedodd fod y gostyngiad wedi digwydd er bod lladd-dai wedi cofnodi mwy o ladd ym misoedd Ionawr a Chwefror o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. “Gwelodd y pedwar mis dilynol lefelau sylweddol is nag yn 2023. Cynyddodd y niferoedd ychydig ym mis Mawrth oherwydd y galw yn ymwneud â’r Pasg a Ramadan, ond yn gyffredinol mae Ŵyn Tymor Newydd wedi bod yn arafach yn dod ar y farchnad, gan olygu bod y niferoedd bump y cant yn is na’r cyfartaledd pum mlynedd.
“Oherwydd gogwyddiadau naturiol yn y cyflenwad yn y DG, mae cyflenwad brig fel arfer yn digwydd yn ystod hanner olaf y flwyddyn; roedd y niferoedd oddeutu 6.3 miliwn yn ystod ail hanner y llynedd. O ystyried y gostyngiad yn y ddiadell fridio fenywaidd a adroddwyd yn arolwg mis Rhagfyr, disgwylir i gnwd ŵyn 2024–25 fod yn llai na’r flwyddyn flaenorol ac mae’n debygol iawn o arwain at ostyngiad yn y niferoedd yn gyffredinol .”
Yn ystod hanner cyntaf 2024, roedd cyfanswm y gwartheg a laddwyd mewn lladd-dai yn y DG yn 1.4 miliwn yn ôl ffigurau diweddaraf Defra. Mae hyn yn gynnydd o un y cant (neu 15,900 o anifeiliaid) o gymharu â Ionawr-Mehefin 2023 ac mae hefyd un y cant yn uwch na'r cyfartaledd pum mlynedd ar gyfer yr un cyfnod.