Mae prisiau pwysau marw gwartheg eidion wedi cyrraedd uchafbwynt newydd o ganlyniad i alw domestig a rhyngwladol cryf, a gwasgfa ar y cyflenwad.
Mae’r trothwy o £5 y cilo wedi’i groesi am y tro cyntaf gyda phris bustych pwysau marw cyfartalog yn cyrraedd 502.8c/kg yn y saith diwrnod diwethaf. Cyn Medi 21, gwelwyd naw wythnos yn olynol o brisiau yn arwain i fyny at y lefelau cyfredol. Maen nhw rŵan yn cyrraedd 30c uwchben prisiau’r flwyddyn flaenorol a £1.03 uwchben y cyfartaledd dros bum-mlynedd.
“Y prif resymau dros y pris uchel yw crebachu mewn cyflenwad, yn ogystal â galw cryf yn y farchnad ddomestig a byd-eang,” meddai Elizabeth Swancott, Uwch Swyddog Gwybodaeth am y Farchnad ac Ymchwil a Datblygu yn Hybu Cig Cymru (HCC). “Mae’n edrych yn debygol y bydd hyn yn parhau i gynnal y prisiau wrth nesu at, ac i mewn i 2025.”
Ar ddechrau 2024, roedd y pris oddeutu 490c/kg am un ar ddeg wythnos, cyn cwympo’n is na phris y flwyddyn flaenorol yn ystod Ebrill, ac yna fe’u gwelwyd yn codi eto uwchben pris y flwyddyn flaenorol erbyn diwedd Mehefin nes cyrraedd yr uchafbwynt newydd.
Yn ôl comisiwn yr UE, mae prisiau gwartheg eidion y DU ymysg y rhai gorau yn y byd. Awgryma’r ffigyrau a gyhoeddwyd ar 19 Medi bod pris cyfartalog yr UE yn 499c, sydd 104c yn is na ffigwr cyfredol y DU a thros 2.5 gwaith yn uwch na phris cyfredol cig eidion o Frasil.
“Yn ôl DEFRA, mae cyflenwad gwartheg dethol y DU dri y cant yn uwch na’r un adeg y llynedd, ond mae’r cyflenwad cig eidion o fewn y farchnad fyd eang yn dynn,” meddai Elizabeth. “Rhagwelir y bydd niferoedd y gwartheg a fydd yn mynd i’w lladd yn gostwng dau y cant yn 2024, a chynhyrchiant cig eidion yn Ewrop yn gostwng 2.3 y cant yn 2024.
“Disgwylir i’r cyflenwad gwartheg ar draws y DU aros yn weddol sefydlog. Mae data BCMS ar boblogaeth ar 1 Gorffennaf yn awgrymu y bydd niferoedd y gwartheg 12-30 mis i lawr 0.3 y cant ar y flwyddyn, ond, o edrych ymlaen, mae nifer y gwartheg 0-12 mis oed yn sylweddol is, gyda gostyngiad o bedwar y cant, gan awgrymu y gallai cyflenwad cig eidion ar draws y DU fod yn gyfyngedig.”
Dywedodd y gallai’r farchnad wrthsefyll rhai amrywiadau yn y cyflenwad gan bod, yn yr wythnos ddiwethaf, y ffigwr yn y DU o 10,230 pen o fustych a gyflwynwyd rhyw bump y cant yn uwch na’r un cyfnod yn 2023. “Ond nid yw’r cynnydd yma o wartheg ar y farchnad yn rhoi pwysau ar alw gan fanwerthwyr,” ychwanegodd Elizabeth.
“Mae Kantar, yr arbenigwyr ar dueddiadau defnyddwyr, yn dangos cynnydd mewn gwerthiant cig eidion yn ystod y cyfnod o ddeuddeg wythnos yn gorffen 4 Awst, gyda chynnydd o dri y cant yn y cyfaint ar y flwyddyn, sy’n cyd-fynd gyda’r cynnydd o chwech y cant mewn gwariant.”
Mae allforion hefyd yn perfformio’n dda. Mae data a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan CThEM ar gyfer hanner cyntaf 2024 yn dangos cynnydd o 11 y cant mewn cyfaint cig eidion ffres ac wedi’i rewi a allforiwyd o’r DU. “Mae hyn yn adlewyrchu galw da yn fyd-eang, er gwaethaf y cynnydd mewn prisiau sy’n gwneud pris cig eidion y DU yn llai cystadleuol yn y farchnad fyd eang,” meddai Elizabeth.