Caffael
Mae Hybu Cig Cymru yn eiddo llwyr i Lywodraeth Cymru ac mae’n derbyn arian cyhoeddus (trwy’r ardoll statudol a chyllid grant y Llywodraeth). Mae’n ofynnol iddo gydymffurfio â Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015, a gofynion Llywodraeth Cymru fel y’u nodir yn Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru.
O dan y rheolau, rhaid i wasanaethau sy’n werth dros £106,047 dros gyfnod y contract gael eu hysbysebu trwy Gyfnodolyn Swyddogol yr UE. Bydd y gwahoddiad perthnasol i dendro hefyd yn cael ei roi ar y wefan hon. Ar gyfer y gwasanaethau hynny sydd o dan y trothwy hwn, rydym yn dilyn ein gweithdrefnau caffael mewnol. Mae hyn yn golygu y bydd y gwahoddiad i dendro am unrhyw wasanaethau sydd yn werth dros £25,000 yn cael ei roi ar GwerthwchiGymru. Bydd y Gwahoddiadau i Dendro yn cael eu rhoi hefyd ar wefan HCC.
Ar gyfer rhai gwasanaethau, gall HCC ymrwymo i gytundebau fframwaith gyda chronfa o gyflenwyr. Mae manylion y rhain o dan y cytundebau cyfredol.
Cytundebau Cyfredol
Mae HCC wedi ymgymryd ag ymarferion caffael ar gyfer y gwasanaethau canlynol. Mae’r rhain yn ymwneud â gwasanaethau dros £25,000 sydd wedi’u hysbysebu’n gyhoeddus yn flaenorol.
Gweithgareddau archwilio ar gyfer gwirio tarddiad Cig Oen Cymreig PGI a Chig Eidion Cymreig PGI
Mae cytundeb wedi’i ddyfarnu i Oritain tan 30 Mehefin 2024
Stondinau Arddangos
Mae cytundeb wedi’i ddyfarnu i Fernleigh Design Limited tan 31 Mawrth 2024
Cynrychiolydd yn y Farchnad
Dyfarnwyd contractau tan 31 Mawrth 2024 fel a ganlyn::
Benelwcs: Green Seed Belgium NV
Ffrainc: GS France
Yr Almaen: Alimentum (Suisse) SARL
Gwledydd Cyngor Cydweithredol y Gwlff: Y Canolfannau Prydeinig ar gyfer Busnes Tramor Cyfyngedig
Yr Eidal: Newwws SrL
Sgandinafia: Green Seed Nordic
Gwasanaethau Asiantaeth Integredig
Mae cytundeb wedi’i ddyfarnu i Four Communications Limited tan 31 Mawrth 2024
Gwasanaethau TG Allanol
Mae cytundeb wedi’i ddyfarnu i Kilner Morgan Limited tan 31 Mawrth 2024
Gwasanaethau Marchnata y tu allan i’r DG
Dyfarnwyd contractau tan 31 Mawrth 2024 fel a ganlyn:
Benelwcs: Green Seed Belgium NV
Ffrainc: GS France
Yr Almaen: Alimentum (Suisse) SARL
Yr Eidal: Newwws SrL
Sgandinafia: Green Seed Nordic
Gwasanaethau Monitro’r Cyfryngau
Mae cytundeb wedi’i ddyfarnu i Press Data tan 31 Mawrth 2024
Gwasanaethau Ardystio Dynodi PGI
Mae cytundeb wedi’i ddyfarnu i NSF Certification Limited tan 30 Mehefin 2024
Darparu Gwasanaethau Cyfathrebu Eirioli an Amddiffyn
Mae cytundeb wedi’i ddyfarnu i Fleet Street Communications (London) Limited tan 31 Mawrth 2024
Darparu Gwefannau’r Farchnad Allforio
Mae cytundeb wedi’i ddyfarnu i Fanatic Design Limited tan 31 Mawrth 2024
Darparu Gwasanaethau Cyfathrebu Arwain Agweddau
Mae cytundeb wedi’i ddyfarnu i Sgema Cyf tan 31 Mawrth 2024