Cloffni mewn Defaid
Gall cloffni mewn defaid achosi colledion cynhyrchedd sylweddol, a bod yn gostus i’r ffermwr, ond yn bwysicach gall fod yn boenus i’r anifail.
Mae sawl afiechyd yn gallu gwneud defaid yn gloff ac mae’n bwysig gwybod pa un sydd dan sylw er mwyn gwneud yn siŵr fod y driniaeth yn effeithiol.
Archwiliwch eich defaid yn rheolaidd a rhowch sylw i unrhyw broblemau ar unwaith. Mae rhai clefydau – fel clwy’r traed a dermatitis carnol defeidiog heintus (CODD) – heintus, ac felly mae angen cymryd gofal i atal y clefyd rhag ymledu i grwpiau eraill o anifeiliaid ar eich fferm a thu hwnt.
Mae rhagor o wybodaeth am reoli a thrin cloffni mewn diadelloedd ar gael wrth glicio ar y dolenni a ganlyn:
Cefndir
Mae dermatitis carnol defeidiog heintus (CODD) yn creu problemau lles ac ariannol difrifol i lawer o ffermwyr yn y DG (Adroddiad y Cyngor Lles Anifeiliaid Fferm (FAWC) 2011). Mae ymchwil a wnaed gennym ar draws Cymru yn 2011 yn dangos fod CODD ar hyn o bryd yn effeithio ar 35% o ffermydd.Mae’r driniaeth yn dibynnu ar ddefnydd helaeth o wrthfiotigau, yn aml wrth roi gwrthfiotigau i’r ddiadell gyfan, yn enwedig gwrthfiotigau o’r gr?p macrolide.Ystyrir y rhain yn bwysig ar gyfer meddyginiaethau dynol ac oherwydd y pryderon presennol ynghylch ymwrthedd cynyddol pobl ac anifeiliaid i wrthfiotigau, rhaid rhoi ystyriaeth ofalus i’r defnydd o wrthfiotigau mewn anifeiliaid sy’n cael eu bwyta gan bobl.
Y bacteria treponema yw’r prif facteria sy’n achosi CODD mewn defaid.Mae datblygiadau diweddar mewn bioleg foleciwlaidd yn golygu y gallwn ymchwilio’n fanylach i’r mathau o facteria sy’n gysylltiedig â’r clefyd a sut maent yn ymateb i wrthfiotigau gwahanol ac a ydynt yn amrywio o fferm i fferm.
Byddai cefnogaeth i’r gwaith hwn gan y diwydiant cig yng Nghymru’n galluogi rhoi gwell cyngor yn seiliedig ar dystiolaeth ar sut i drin CODD; byddai hynny o fudd uniongyrchol i gynhyrchwyr cig oen yng Nghymru yn ogystal â bod o fantais i ffermwyr a milfeddygon yng ngweddill y DG.
Nodau’r Prosiect
1) Ymchwilio i’r amrywiad o fferm i fferm mewn bacteria treponema o anafiadau dermatitis carnol defeidiog heintus.
2) Ymchwilio i’r amrywiad o fferm i fferm ynghylch sut mae bacteria treponema mewn anafiadau dermatitis carnol defeidiog heintus yn ymateb i wrthfiotigau.
Mae’r prosiect yn cael ei gyllido gan HCC ac EBLEX .