Mae cyfleon i ffermwyr i wella eu helw pan yn mynd â gwartheg a defaid tew i’r farchnad ar gael drwy’r Rhaglen Hyfforddi Dewis Gwartheg a Defaid.
Mae’r digwyddiadau hyfforddi hyn am ddim i holl gynhyrchwyr ac yn darparu arddangosiadau ymarferol a phrofiad go iawn mewn lladd-dy, yn asesu anifeiliaid byw drwy asesiadau o garcasau.
Ma pob digwyddiad yn cael ei gynnal mewn lladd-dy gyda hyd at dwsin o ffermwyr ar bob cwrs. Mae cyfarwyddiadau manwl ar bwyntiau trin a thrafod a ffactorau i’w hystyried pan yn dewis gwartheg a defaid i’w lladd, gan gynnwys:
- Technegau trin a thrafod
- Gofynion y farchnad
- Gofynion y gadwyn gyflenwi
- Dosbarthiad y carcas
- GofynionTrin y Carcasau
- Nodweddion Brid
Mae’r profiad o drin ac asesu nifer o anifeiliaid byw ac yna gallu asesu carcasau yr un anifeiliaid yn nes ymlaen yn y dydd yn darparu profiad a gwybodaeth gwych i gynhyrchwyr i’w cymryd ymaith gyda nhw a’u defnyddio adre i wella eu sgiliau dewis stoc i’r farchnad yn y dyfodol.
Mae’n hynod bwysig fod cynhyrchwyr yn symud yn nês at eu cwsmeriaid er mwyn sicrhau eu bod yn cael y mwyaf o arian â phosibl o’u stoc ac mae HCC yn awyddus i gynorthwyo’r broses hon. I ddod ar gwrs yn y dyfodol cysylltwch â HCC ar 01970 625050 neu ar info@hccmpw.org.uk
Mae nifer o gyhoeddiadau hefyd ar gael i’w lawrlwytho:
Llawlyfr Cynhyrchwyr Cig Eidion
Llawlyfr Cynhyrchwyr Cig Oen
Canllaw barnu stoc