Arloesedd ymarferol i gynhyrchu’n broffidiol
Croeso i Cam-YMLAEN 2017 – cyfres newydd Hybu Cig Cymru o ddigwyddiadau i rannu gwybodaeth ar lawr gwlad gyda’r nod o ledaenu datblygiadau arloesol sy’n deillio o raglen ymchwil amaethyddol flaenllaw HCC a’u datblygu ymhellach, a hyrwyddo ffyrdd o fod yn effeithlon ar ffermydd.
Trwy’r flwyddyn, bydd sesiynau arbenigol yn cael eu cynnal yn rhanbarthol ac yn genedlaethol i rannu canfyddiadau allweddol y gwaith ymchwil eang sy’n cael ei wneud bob blwyddyn dan ambarél HCC, a hynny i ddarparu cyfres o ddatblygiadau arloesol ymarferol i ffermwyr yng Nghymru er mwyn annog dulliau cynhyrchu proffidiol.
Bydd manylion y digwyddiadau yn cael eu nodi yma drwy gydol y flwyddyn. Bydd ein hadran Datblygu’r Diwydiant yn llunio nifer o astudiaethau achos ar bynciau perthnasol ac amserol o fyd ffermio hefyd, a gellir eu darllen isod.